Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor M么n i ymgynghori ar gau ysgolion ar yr ynys
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys M么n wedi penderfynu ymgynghori ar gynlluniau i ad-drefnu ysgolion cynradd yr ynys.
Fe allai tair ysgol gynradd gau yn 么l y cynlluniau fydd yn cael eu cyflwyno gan y cyngor.
Mae dau opsiwn yn cael eu hystyried ar gyfer ysgolion Corn Hir, Bodffordd, Esceifiog, Talwrn, Henblas a'r Graig.
Mae'r cyngor eisoes wedi ymgynghori 芒 rhieni, llywodraethwyr a staff y chwe ysgol, ynghyd 芒 chynghorwyr lleol a Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn y penderfyniad ddydd Llun bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ddau opsiwn sydd yn cael eu hystyried.
Opsiwn A
- Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd;
- Adnewyddu Ysgol Esceifiog;
- Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau;
- Adnewyddu Ysgol Henblas.
Opsiwn B
- Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd;
- Adeiladu ysgol gynradd newydd i 150 o ddisgyblion yng Ngaerwen yn lle Ysgol Esceifiog;
- Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau;
- Adnewyddu Ysgol Henblas.