Radio Ceiliog a'r frwydr i gael y Gymraeg ar y radio

Ffynhonnell y llun, Philip Lloyd

Disgrifiad o'r llun, Bu Radio Ceiliog yn darlledu o gartrefi ledled Cymru, o Langefni i Ferthyr

"Do not switch off. Do not switch off. You are listening to the voice of Free Wales."

Ar ddiwedd yr 1950au, blynyddoedd cyn i Radio Caroline fynd ar yr awyr yn 1964 - ac ymhell cyn dyfodiad Radio Cymru yn '77 - roedd un gorsaf radio answyddogol yn ceisio gwneud ei marc.

"Roedd e'n gyfnod rhamantaidd, yn gyfnod o herio'r drefn," meddai Philip Lloyd, un o ymgyrchwyr Radio Ceiliog.

"Fuodd 'run ceiliog go iawn erioed yn canu am hanner nos! Ond os oedd un Pleidiwr am rybuddio aelod arall am ddarllediad, byddai'n codi'r ff么n a dweud yn gyfrinachlyd: 'Mae'r ceiliog yn canu heno' - arwydd amlwg o fwriad i dorri'r gyfraith i unrhyw blismon neu beiriannydd 91热爆 fyddai'n clustfeinio!"

Roedd rhai o aelodau Plaid Cymru yn teimlo bod yn rhaid gweithredu.

Yn eu barn nhw roedd anghyfiawnder yn nhelerau'r Cyngor Darlledu - corff a oedd wedi'i sefydlu gan y 91热爆 i fod yn gyfrifol am raglenni gwasanaeth radio 91热爆 Service - a ddaeth yn 91热爆 Radio 4 yn ddiweddarach - yn yr Alban a Chymru.

Ffynhonnell y llun, Philip Lloyd

Disgrifiad o'r llun, Gweithio ar y peiriannau technolegol o foethusrwydd y t欧

Roedd pob plaid a oedd wedi cynnig o leiaf 50 o ymgeiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol blaenorol yn cael darlledu ar donfeddi'r 91热爆. Dim problem i'r Tor茂aid, y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr.

Ond dim ond 36 etholaeth oedd yng Nghymru, ac felly hyd yn oed os byddai Plaid Cymru wedi rhoi ymgeisydd ym mhob etholaeth, byddai hynny heb fod yn ddigon.

Felly aeth criw o genedlaetholwyr ati i ledaenu eu negeseuon yn anghyfreithlon ar y radio yng Nghymru, gyda rhag-rybudd i gyd-fynd ar y setiau teledu.

Pan roedd rhagolygon y tywydd yn dod ymlaen ar y teledu am ddeng munud i hanner nos, ambell waith roedd neges yn cael ei adrodd: "Peidiwch 芒 throi eich setiau teledu i ffwrdd. Ar ddiwedd y darllediad hwn bydd Radio Wales ar yr awyr."

Ar 么l i seiniau God Save the Queen ddistewi, roedd Gw欧r Harlech yn cael ei chwarae o'r peiriant recordio, ac roedd y propaganda'n cychwyn ar Radio Wales/Radio Cymru - neu Radio Ceiliog i'r rhai oedd wrthi.

Disgrifiad o'r fideo, Gwynfor Evans a rhai o gyfranwyr eraill yn siarad ar Radio Ceiliog

Jocian gyda'r heddlu

"Er mai ymateb i anghyfiawnder roedden ni wrth 'ddwyn' tonfedd y Gorfforaeth Ddarlledu, doedd yr ymgyrch ddim heb hiwmor," meddai Philip Lloyd mewn erthygl i'r Casglwr yn 2014.

Roedd y llenor Meic Stephens yn un o nifer o aelodau'r Blaid a oedd yn rhannu t欧 mawr o'r enw Garthnewydd ym Merthyr.

"Cyfrifoldeb Meic oedd aros ar y llawr isaf rhag ofn y byddai rhywun yn curo'r drws pan fyddai rhai eraill yn yr atig yn darlledu," meddai Philip Lloyd, sydd bellach yn 84 oed ac yn byw yn yr Wyddgrug.

"Un noson, dyma blismon yn galw ar ei drywydd am fygyn a sgwrs yn 么l ei arfer. I lawr 芒 Glyn a Harri Webb o'r atig ar frys i fod yn gefn i Meic.

"Ar 么l awr a mwy o ymgom, aeth y plismon ar ei ffordd heb wybod beth oedd yn digwydd i fyny'r grisiau. Glyn oedd y mwyaf dibryder o'r triwyr, meddai Meic, yn difyrru'r ymwelydd gyda straeon a j么cs!"

Ffynhonnell y llun, Geoff Charles

Disgrifiad o'r llun, Rhai o aelodau Plaid Cymru'n darlledu "Radio Wales" yn anghyfreithlon am y tro cyntaf yn y gogledd ar Awst 6, 1959

"Ro'n i'n byw yn yr atig - lle da iawn i gael signal," meddai Meic Stephens wrth gofio 'n么l. "O fan'na oedd y darlledu yn mynd ymlaen.

"Roedd y signal yn wan iawn, iawn. Doedd e ddim yn mynd ond cwpl o filltiroedd lawr y cwm - ond roedd e'n arloesol.

"Roedd e'n gyfnod cynhyrfus iawn yn enwedig yn y de ddwyrain lle doedd dim llawer o Gymraeg. Roedd 'na lawer o gymeriadau lliwgar, ac roedd hi'n amser cyffrous iawn i fod yn ifanc ac yn genedlaetholgar."

Ond mae Meic Stephens - tad un o DJs mwyaf poblogaidd Cymru a Phrydain ar y radio y dyddiau yma, Huw - yn cyfaddef mai "propaganda" oedd y cyfan yn hytrach nag ymgais wirioneddol i sefydlu gorsaf radio gwbl Gymraeg.

"Doedd dim s么n am gael gorsaf [radio] - roedd hynny ymhell yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Philip Lloyd

Disgrifiad o'r llun, Glyn James (chwith) yn "lledaenu propaganda" cyn is-etholiad Glyn Ebwy yn 1960

Doedd hyn ddim i ddweud nad oedd y Gymraeg wedi bod ar y tonfeddi cyn hynny.

Ym mis Chwefror 1923, fe ganodd Mostyn Thomas y g芒n Dafydd y Garreg Wen - y g芒n Gymraeg gyntaf erioed i'w chlywed ar y radio.

Cafodd Eisteddfod Cairo ei darlledu gan y 91热爆 yn 1943 a chlywodd y gwrandawyr n么l yng Nghymru y tenor John Evans o F么n yn canu 'Cartref' dan gryn emosiwn i'r milwyr Cymreig oedd wedi eu lleoli yn yr Aifft.

Cafodd dyn o'r Wyddgrug hyd yn oed ei garcharu am fradwriaeth wedi iddo ddarlledu propaganda yn Gymraeg ar ran y Nats茂aid yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn 1944.

Ond yn 1962, dyma glywed darlith radio a fyddai'n cael cryn ddylanwad ar yr iaith Gymraeg.

Tynged Yr Iaith oedd testun Saunders Lewis - a oedd wedi ei wahodd i draddodi darlith flynyddol y 91热爆 ar y radio ar 13 Chwefror. Ynddi, awgrymodd y byddai'r iaith yn marw yn gynnar yn yr unfed ganrif ar hugain.

Cafodd y ddarlith, trwy bwerau'r weirles, gryn effaith ar y Cymry ac fe ddylanwadodd ar sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Yn ei lythyr at Saunders Lewis ddwy flynedd wedyn, dywedodd Owain Owain, sefydlydd y Gymdeithas: "[H]offwn i chwi gael gwybod fod eich sgwrs radio yn dwyn ffrwyth ar ei milfed (os byw'r Gymraeg yn yr 21 Ganrif, i chwi mae'r diolch)."

Disgrifiad o'r llun, Saunders Lewis

'Ymgyrch sedd 么l'

Un o amcanion y mudiad newydd hon oedd sefydlu gorsaf radio gwbl Gymraeg.

Yn 1968, cafodd protest heddychlon ei gynnal yn swyddfeydd y 91热爆 ym Mangor ac yng Nghaerdydd yn mynegi pryder am y prinder o Gymraeg ar y radio.

Un o'r rheiny oedd yn cymryd rhan yn y brotest honno yn swyddfa'r 91热爆 ar Heol Casnewydd y brifddinas oedd Ffred Ffransis.

"Roedd yr ymgyrch i sefydlu gorsaf radio Gymraeg yn cymryd rhyw fath o sedd 么l i'r ymgyrch i gael sianel Gymraeg i ddweud y gwir," meddai.

"Ond roedd hi'n un bwysig ac yn rhan o'n hymgais ni i wella darlledu yng Nghymru."

O fewn degawd, roedd Radio Cymru wedi'i sefydlu, ac hynny bron i ddwy flynedd cyn i Gymru gael gorsaf Saesneg iddi hi ei hun - Radio Wales.

Disgrifiad o'r fideo, Clip sain: Gwyn Llewelyn ar y bore cyntaf o ddarlledu ar 3 Ionawr 1977

Ond beth felly am Radio Ceiliog? Beth oedd ei waddol mewn gwirionedd?

Dywedodd y diweddar Glyn James wrth yr Aberdare Leader yn 1959 fod y darlledu anghyfreithlon yn ymgais i sicrhau "rhyddid mynegiant yn nhraddodiad gorau democratiaeth Prydain".

Doedd hi erioed yn ymgyrch i sefydlu'r Radio Cymru fel mae hi'n bodoli heddiw, ond roedd hi - serch hynny - yn ymgyrch arloesol.

"O edrych yn 么l dwn i ddim faint o bobl derbyniodd y darllediadau a dwn i ddim faint o ddylanwad wnaeth y darllediadau ar y cyhoedd," meddai Philip Lloyd.

"Ond oedd e'n gyfnod cyffrous ac yn ymgyrch lle roedd pobl ifanc yn frwd."