Ateb y Galw: Mali Harries

Yr actores Mali Harries sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi hi gael ei henwebu gan Carl Roberts yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Cael fy ngwthio yn y pram tuag at siop losin yn Abernant Road yn Aberd芒r.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Scott Gibbs. Torres i ei lun allan o'r Western Mail pan gath e ei gap cyntaf.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi ddim yn berson sy'n teimlo cywilydd yn hawdd, ond si诺r o fod Mam yn cael ei stopio gan yr heddlu ar y draffordd am yrru'n rhy araf!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tra'n gwylio The Last Miners ar 91热爆.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Poeni am fod yn hwyr a brysio o amgylch gormod.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adre, ble mae nghalon.

Disgrifiad o'r llun, Mali oedd yr actores orau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni am ei phortread o'r Ditectif Arolygydd Mared Lloyd yn Y Gwyll

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson naeth fy ng诺r ofyn i mi ei briodi. O'dd y fodrwy ddywedd茂o yn teimlo'n enfawr. Un fach yw hi, ond aeth fy ng诺r heb fwyd am wythnos i'w chael i mi o M&S!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cariadus, ffyddlon, penderfynol.

Beth yw dy hoff lyfr?

The Prophet - Kahil Gibran.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Marilyn Monroe i glywed y gwir am ddiwedd ei bywyd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Anaml iawn yn cael y cyfle i weld ffilm, 'rwy wastad yn ffindo rhywbeth arall i'w 'neud!

Yr Ymadawiad gan Ed Talfan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd am dro ar y traeth gyda ffrindie a'r teulu. Cael pawb at ei gilydd. Cynnau t芒n ar y traeth. Dathlu. Bwyd a gwin da.

Dy hoff albwm?

Joni Mitchell - Blue

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - be fyddai'r dewis?

Wystrys / st锚c / banoffee pie.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Donald Trump er mwyn i mi fedru ymddiswyddo!

Disgrifiad o'r llun, Ydy Tom Mathias newydd glywed canlyniad yr etholiad arlywyddol?

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Ed Talfan