Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Trydaneiddio am ddigwydd' er gwaethaf oedi yn Lloegr
Mae dal disgwyl i drenau trydan ddechrau rhedeg o Gaerdydd i Lundain yn 2019 er bod yna oedi ar y gwaith mewn ardaloedd eraill.
Does yna ddim gwaith yn digwydd ar hyn o bryd ar y pedwar llwybr sydd yn gwasanaethu ardal Bryste, Rhydychen a Berkshire.
Ond yn 么l y gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am y rheilffyrdd, Paul Maynard, fydd yna ddim oedi yng Nghymru ac mae'n dweud y bydd arian ar gael fel bod teithwyr yn cael "buddion ychwanegol".
Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan.
Dywedodd ei fod eisiau i "deithwyr yn ne Cymru elwa o'r trydaneiddio i'r eithaf posib".
Mae Network Rail hefyd wedi rhoi sicrwydd y bydd y gwaith trydaneiddio rhwng Llundain a De Cymru yn digwydd.