Cymry dramor: Angen 'ymdrech pawb' i gael 1m o siaradwyr

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Madog

Disgrifiad o'r llun, Cymdeithas Madog - un o gymdeithasau Cymraeg Gogledd America

Dywed athro sy'n dysgu Cymraeg yng Ngogledd America y dylai cymdeithasau Cymraeg dramor fod yn rhan o darged Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn 么l Antone Minard, athro Cymraeg yng Nghymdeithas Gymraeg Vancouver yng Nghanada, mae'n bwysig i'r llywodraeth "gadw mewn cysylltiad" gyda chymdeithasau Cymraeg tramor.

"Weithiau mae llawer o bobl Gogledd America yn gweld gwerth yr iaith yn gliriach na'r bobl sy'n byw yn y DU," meddai.

"Felly bysa cyfri siaradwyr Cymraeg tu hwnt i Gymru yn ffordd syml o gyflawni'r targed.

"Nid ymdrech un sefydliad yw hybu'r iaith ac annog pobl i ddysgu."

'Cefnogaeth a brwdfrydedd'

Mae David Busey, un o fyfyrwyr gwersi Cymraeg Capel Cymraeg Rehoboth yn yr UDA hefyd yn credu bod cyrraedd y targed yn mynd i gymryd "ymdrechion gan bawb".

"Mae gwneud yr iaith yn boblogaidd yn swydd amhosib i'r llywodraeth ar ben ei hun," meddai.

"Mae angen ymrestru cefnogaeth a brwdfrydedd cymdeithasau i helpu cyflawni'r targed."

"I blant - i wneud y dysgu'n hwyl, i oedolion - i wneud y dysgu'n ymarferol," meddai. "Mae hybu'r iaith angen cynnwys talent ac awydd rhieni, athrawon a gweithwyr ieuenctid."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Madog

Disgrifiad o'r llun, Mae Antone Minard yn credu y dylai Cymry Cymraeg sy'n byw dros y ffin yn Lloegr hefyd gyfrif at y targed

Cafodd y cyhoeddiad am darged y llywodraeth ei wneud gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ym mis Awst eleni.

Y Cymry Tramor

Ond nid Cymru ydy'r unig wlad sy'n ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Yn 么l adroddiad papurau newydd Ninnau a'r Drych, mae dros 10 o gymdeithasau Cymraeg yng Ngogledd America yn cynnig gwersi Cymraeg.

Er bod y cymunedau yn amrywio ar draws y cyfandir, maen nhw i gyd yn dathlu traddodiadau Cymreig.

Mae Capel Cymraeg Rehoboth yn Delta, Pennsylvania yn un sy'n cynnal gwasanaethau crefyddol a digwyddiadau cerddorol yn y traddodiad Cymraeg.

Yn ogystal 芒 hyn, mae'r dref - ble symudodd miloedd o Gymry yn y 18fed a'r 19eg ganrif - yn cynnal gwasanaethau addoli dwyieithog, gwersi Cymraeg lleol ac wedi ffurfio C么r Cymraeg Rehoboth.

Ffynhonnell y llun, Capel Cymraeg Rehoboth

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd gwersi Cymraeg Capel Rehoboth yn 1983 a'r c么r y flwyddyn wedyn

Dywedodd Richard Baskwill, sy'n weinidog yn y capel: "Rydym ni am i'r iaith [Gymraeg] ddychwelyd i'n digwyddiadau, a datguddio ei harddwch i gymaint o bobl ac sy'n bosib.

"Mae'r gwersi wedi creu gr诺p o bobl sy'n canu'n hyderus yn y Gymraeg, felly mae 30 gwaith yn fwy ohonynt bellach yn cael blas o'r emynau mewn gwasanaethau a chyngherddau," meddai.

Dywedodd Mr Minard bod nifer dda o siaradwyr rhugl o fewn y gymdeithas.

"Mae 'na nifer o bobl dwi ond yn siarad Cymraeg 'efo, ac mae'n bosib clywed yr iaith ym mron pob un o ddigwyddiadau'r Gymdeithas Cymraeg."

Dywedodd Mr Minard - sydd hefyd wedi cynnal gwersi fel rhan o Wythnos Gymraeg Cymdeithas Madog - bod tua hanner y bobl yn ei ddosbarth wedi'u geni a'u magu yng Nghymru ond heb ddysgu'r iaith yn eu plentyndod. Mae eraill hefo diddordeb ei dysgu.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Gymraeg Vancouver

Disgrifiad o'r llun, Un o gyfarfodydd Cymdeithas Gymraeg Vancouver lle mae 11 o siaradwyr rhugl

"Mae'r Gymdeithas wedi bod yn dysgu'r iaith am ddegawdau o leiaf, on and off, ond dechreuais i gynnig gwersi tua thair blynedd yn 么l," meddai.

"Mae'r Gymdeithas am i bobl yng Nghanada wybod bod diwylliant a iaith Gymraeg yn bodoli, ac nid jyst rhan o Loegr yw'r wlad.

"Mae llawer o bobl yma sy'n teimlo'n gryf iawn am bwysigrwydd yr iaith, nid ond i aelodau'r Gymdeithas, ond i'r gymuned."

Y Cwrs Blynyddol

Mae Maria Bartholdi o Gymdeithas Madog, y sefydliad astudiaethau Cymraeg yng Ngogledd America, hefyd yn teimlo'r angen i gadw'r iaith a'r diwylliant yn fyw.

Mae'r gymdeithas yn trefnu cwrs wythnos dysgu Cymraeg yn flynyddol, sy'n cynnwys pum awr o wersi'r dydd, yn ogystal 芒 gweithgareddau Cymraeg yn y nos.

"Ar gyfartaledd, 'da ni wedi derbyn 40 o fyfyrwyr pob blwyddyn ers 2010. Mae gan rhai o'r dysgwyr ddiddordeb yn eu treftadaeth Gymreig ac eisiau cysylltu 芒'u gwreiddiau - mae rhai yn caru ieithoedd ac eisiau amddiffyn yr iaith trwy ei dysgu."

Mae'r gymdeithas hefyd yn cynnal ysgoloriaethau i bobl sydd am fynychu'r cwrs Cymraeg.

"Y nod yw rhoi lot o Gymraeg i'r myfyrwyr fel bod nhw'n gallu mynd 芒'u dealltwriaeth gyda nhw a pharhau i ymarfer trwy gydol y flwyddyn," meddai Ms Bartholdi.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Madog

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymdeithas Madog wedi bod yn cynnal cyrsiau Cymraeg ers 1977

Rhai o gymdeithasau Cymraeg Gogledd America

  • Cymdeithas Madog
  • Cymdeithas Gymraeg Colorado
  • Gr诺p Cymraeg Washington, DC
  • Cymdeithas Gymraeg Dewi Sant Minnesota
  • Cymdeithas Dewi Sant yn Pittsburg
  • Capel Rehoboth, Delta, Pennsylvania
  • Cymdeithas Gymraeg Oregon
  • Awr Sgwrsio, Ottawa, Ontario
  • Cymdeithas Gymraeg Vancouver