Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Frongoch: 'Prifysgol y Chwyldro'
Roedd Gwrthryfel y Pasg 1916 yn un o'r penodau mwyaf arwyddocaol yn hanes Iwerddon ac fe chwaraeodd pentref bychan yng Ngogledd Cymru ran allweddol yn yr hyn ddigwyddodd wedyn.
Bwriad y Gweriniaethwyr, arweiniodd y gwrthryfel, oedd ceisio sefydlu gweriniaeth annibynnol eu hunain ond cawson nhw eu gorchfygu gan filwyr Prydain.
Cafodd llawer o'r arweinwyr blaenllaw eu dienyddio tra cafodd miloedd o rai eraill eu hanfon i wersylloedd ym Mhrydain.
Cafodd bron i 2,000 ohonyn nhw eu carcharu yng Ngwersyll Frongoch ger Y Bala.
Ond er bod y gweriniaethwyr wedi colli eu cyfle, bum mlynedd yn ddiweddarach fe lwyddodd rhai o'r arweinwyr i sicrhau cytundeb a fyddai'n arwain at sefydlu Gweriniaeth Iwerddon.
Roedd nifer o'r dynion yma dan glo yn Frongoch ac mae nifer o weriniaethwyr yn dal i gyfeirio at y gwersyll rhyfel yn Eryri fel Ollscoil na Réabhlóide - Prifysgol y Chwyldro. Yno, bu trafod brwd am ddyfodol Iwerddon a sut i fynd ati i geisio gwireddu'r freuddwyd o Iwerddon rydd.
Dylanwad
Pan gafodd Gweriniaeth Iwerddon ei sefydlu yn 1922 cafodd 30 o'r dynion gafodd eu carcharu yn Frongoch eu hethol fel aelodau Sinn Féin yn y senedd yn Nulyn.
Llywydd Sinn Féin heddiw ydy Gerry Adams ac fe ddywedodd wrth Cymru Fyw bod profiadau'r Gwyddelod yn Frongoch wedi bod yn allweddol i ddatblygiad gwleidyddiaeth Iwerddon dros y ganrif ddiwethaf.
"Fe glywais yr enw Frongoch am y tro cyntaf gan Joe Clarke, un o'r gwerinaethwyr gafodd eu carcharu yno," meddai.
"Roedd Joe yn rhedeg yr Irish Republic Book Bureau. Pan ro'n i yn garcharor yn Long Kesh yn y '70au ro'n i'n rhan o glwb darllen y carcharorion gwleidyddol. Ro'n i'n prynu llyfrau gan Joe ar gyfer ein trafodaethau gwleidyddol.
"Cyrhaeddodd y tri charcharor cyntaf Frongoch ar 9 Fehefin, a daeth y gweddill yn eu cannoedd yn yr wythnosau canlynol."
Ychwanegodd: "Roedd llawer a gafodd eu cadw yno wedi cymryd rhan yng Ngwrthryfel y Pasg, ond doedd gan nifer ohonyn nhw ddim cysylltiad â'r digwyddiadau. Roedd y carcharorion yn gymysgedd o ddynion o bob rhan o Iwerddon. Yn ogystal â Joe Clarke, cafodd Michael Collins, Dick McKee, Tomás MacCurtain, a Terence McSwiney eu carcharu yno."
Roedd y dynion yma ymhlith arweinwyr mwyaf dylanwadol y mudiad gweriniaethol.
Camgymeriad?
Mae Dr Marie Coleman yn hanesydd ym Mhrifysgol Queen's, Belfast, ac mae hi'n dadlau bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud camgymeriad strategol trwy anfon cymaint o ddynion i'r gwersyll ar gyrion y Bala.
"Fe aeth pethau'n waeth i Lywodraeth Prydain yn dilyn y penderfyniad i ddienyddio arweinwyr y gwrthryfel, oherwydd datblygodd lefel o gydymdeimlad yn gyhoeddus, nad oedd wedi bodoli i'r un graddau yn ystod y gwrthryfel ei hun.
"Ond roedd y penderfyniad i roi casgliad o wrthryfelwyr a oedd â'r un daliadau at ei gilydd yn yr un lle yn un twp iawn mewn gwirionedd. Rhoddodd hyn y cyfle iddyn nhw atgyfnerthu eu credoau a chryfhau'r ymdeimlad eu bod am barhau â gwaith arweinwyr Gwrthryfel y Pasg 1916, unwaith y bydden nhw'n cael eu rhyddhau o'r carchar."
Yn ôl yr awdur a'r hanesydd Ruth Dudley Edwards, doedd 'na ddim cyfiawnhad moesol dros Wrthryfel y Pasg.
"Roedd tua 2,000 o bobl yn rhan o'r terfysg ar strydoedd Iwerddon, ond roedd 200,000 o Wyddelod ar y pryd yn brwydro ar ran Llywodraeth Prydain yn erbyn yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf," meddai. "Doedd 'na ddim cefnogaeth i'r gwrthryfelwyr ymhlith y cyhoedd."
Mae hanes Frongoch yn atgoffa Gerry Adams o'i brofiad personol o fod dan glo.
"Roedd y gwersyll wedi ei rannu'n ddau - y rhan ddeheuol yn yr hen ddistyllfa wisgi, a rhan ogleddol, sef clwstwr o gytiau pren," meddai. "Roedd y ddwy ran wedi'u hamgylchynu gyda weiren bigog a dynion gyda gynnau. Wrth edrych ar luniau o'r cyfnod, dydy lle roedd y carcharorion yn ochr ddeheuol y gwersyll ddim rhy wahanol i'r celloedd yn Long Kesh.
"Ac fel gweriniaethwyr o fy nghenhedlaeth i, roedd cael eich caethiwo a'ch carcharu yn gyfle i ddarllen, dysgu, trafod a dadlau. Roedd hynny yr un mor wir am Frongoch, ac roedd yn cael ei ddisgrifio fel 'Prifysgol Sinn Féin'."
Gwrthryfelwyr alltud
"Fe fyddai wedi bod yn llawer gwell i Lywodraeth Prydain pe bai'r carcharorion wedi cael eu rhannu yn griwiau llai a'u dosbarthu o gwmpas Prydain," meddai'r Dr Marie Coleman.
"Y bwriad oedd i symud y dynion yma o Iwerddon fel eu bod yn gallu gwneud llai o niwed, ond mewn gwirionedd beth ddigwyddodd oedd bod y dynion wedi cael y cyfle i ailadeiladu eu rhwydweithiau, i wneud ffrindiau newydd, ac i ddod yn 'wrthryfelwyr alltud'."
Roedd y gwersyll yn frith o lygod yn ôl y dynion ac mi wnaethon nhw sawl cwyn am yr amodau cyntefig yno. Yn ôl y Dr Marie Coleman, cafodd y gwersyll y llysenw Francach, sef y gair Gwyddeleg am lygoden fawr. Er hynny roedden nhw yn ddisgybledig, fel yr eglura Gerry Adams.
"Fe wnaethon nhw drefnu eu bywydau mewn ffordd filwrol, yn dysgu am dactegau a strategaethau milwrol a rhyfela yn y dull guerrilla.
"Roedd gwrthdaro anochel pan roedd swyddogion y gwersyll yn ceisio distewi'r dynion. Roedd y carcharorion yn gwrthod ildio.
"Ar un achlysur, chafodd y carcharorion ddim caniatâd i wisgo bathodynnau Sinn Féin, ond y diwrnod wedyn roedd hyd yn oed mwy o'r dynion yn eu gwisgo."
Mae Ruth Dudley Edwards hefyd yn cydnabod bod nifer o weriniaethwyr wedi ail-gynnau'r tân yn eu boliau yn Frongoch ond mae hi'n gwrthod y ddadl bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud camgymeriad trwy anfon cymaint o ddynion i'r un gwersyll.
"Rhaid i chi gofio bod y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth - doedd 'na ddim atebion hawdd i broblemau mewn cyfnod mor argyfyngus. Doedd gan y Llywodraeth ddim dewis ond anfon y dynion yn eu cannoedd i wersylloedd fel Frongoch.
"Mae'r Llywodraeth wedi cael ei chyhuddo ar hyd o blynyddoedd o ymateb yn rhy llawdrwm i'r gwrthryfel," meddai. "Cafodd 16 o weriniaethwyr eu dienyddio.
"Ond meddyliwch, ar y pryd roedd yr Almaenwyr yn lladd pobl yn eu cannoedd yn ddyddiol yn Ffrainc a Gwlad Belg am ddim rheswm o gwbl. Felly mewn cymhariaeth gyda'r hyn ddigwyddodd yn Nulyn, doedd ymateb y Llywodraeth ddim mor afresymol â mae'n cael ei bortreadu gan rai."
To newydd
Roedd Frongoch yn fagwrfa i do newydd o arweinwyr gweriniaethol yn ôl y Dr Marie Coleman: "Mae'n rhaid cofio, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg roedd y mudiad gweriniaethol i bob pwrpas heb arweinwyr, gan fod cymaint ohonyn nhw wedi cael eu dienyddio. Felly, i ryw raddau, cafodd arweinwyr eu meithrin yn y carchardai yn y cyfnod wedi hynny, yn enwedig Frongoch, ac mae'n siŵr mai'r un mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Michael Collins."
Er nad oedd yr amodau yn ddelfrydol roedd yna gyfle i gael 'chydig o hwyl ar draul swyddogion y gwersyll. Mae Gerry Adams yn cynnig un enghraifft:
"Ar un achlysur, dywedodd swyddog o Fyddin Prydain y byddai'r carcharorion yno am weddill eu bywydau ac fe gododd un o'r dynion gan weiddi "Hip-hip…" ac ymunodd pawb gyda "Hwrê!" Ysgwydodd y swyddog ei ben a cherdded i ffwrdd gan ddweud: 'dwi'n rhoi fyny...'
"Ysbryd di-wyro fel hwn ysgogodd dros fil o bobl i ddod allan ar strydoedd Dulyn a rhannau eraill o Iwerddon yn ystod Pasg 1916. Roedden nhw'n mynnu rhyddid. A dyna fusnes anorffenedig y cyfnod."
Bydd rhagor o hanes Frongoch a gwrthryfel y Pasg yn Rebels Iwerddon 1916: Lyn a Dylan Ebenezer, S4C, 2 Hydref, 20:00