Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datgelu cynlluniau i adfywio rhan o ganol Caerfyrddin
- Awdur, Dafydd Morgan
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae Fforwm Adfywio Tref Caerfyrddin wedi datgelu cynlluniau i adfywio rhan o'r dref.
Mae Sgw芒r Jackson, Stryd y Brenin, a Stryd y Capel wedi eu cynnwys yn y cynigion i fywiogi rhan o'r dref sy'n aml yn angof.
Y nod yw arwain siopwyr o Ganolfan Siopa Rhodfa Santes Catrin, ymlaen i Stryd y Capel, Sgw芒r Jackson ac i fyny i Stryd y Brenin lle mae'r rhan fwyaf o siopau annibynnol Caerfyrddin wedi'u lleoli.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cau Stryd y Brenin i gerbydau, a chreu ardal i gerddwyr yn unig.
'Sgrin awyr agored'
Byddai Sgw芒r Jackson yn cael ei drawsnewid yn sgw芒r agored, fyddai'n bwynt cyfarfod newydd i bobl y dref.
Mae'r cynigion yn cynnwys ardal ar gyfer bwyta tu allan yn ystod yr haf, gyda sgrin LED awyr agored a allai arddangos ddigwyddiadau chwaraeon, teledu a ffilmiau.
Byddai Stryd y Capel yn cynnwys unedau newydd, fyddai'n creu lle ar gyfer busnesau bach newydd yng nghanol y dref.
'Naws arbennig'
Mae'r cynlluniau wedi cael eu croesawu gan Marian Ritson o Siop Pethau Bychain ar Stryd y Brenin.
"Ers blynyddoedd da' ni di bod wrthi yn siarad efo'r cyngor yngl欧n 芒 datblygu Heol y Brenin, achos hwn yw ydi'r ardal hynafol yng Nghaerfyrddin, ac wrth gwrs mae'n llawn o siopau annibynnol, sydd yn rhoi naws arbennig i'r dre'," meddai.
"Chi'n gwybod, allwch chi fynd i unrhyw dre' ac mae'r un hen siopau, ond ar Heol y Brenin pobl annibynnol sydd 'ma."
Mae hi hefyd yn credu bydd y cynigion yn denu mwy o bobol i'r ardal.
"Unwaith mae pobol yn ffeindio Heol y Brenin maen nhw'n dod yma trwy'r amser, ond y dasg yw i'w harwain nhw yma mewn gwirionedd," meddai.
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Dai Jenkins: "Mae swm o arian wedi ei roi mewn yng nghynllun pum mlynedd - y cynllun cyfalaf - sef 拢500,000.
"Mae rhaid dechrau ar y broses gyntaf - ymgynghori 'da phobl y dre' cyn bod pethau'n mynd yn eu blaen."
O ran ffynonellau eraill fe ddywedodd Mr Jenkins bod y cyngor yn "gweithio mewn partneriaeth gyda chwmn茂au preifat ac unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn y cynllun".
"Llywodraeth Cymru - falle rhoddan nhw rywbeth," meddai.
"Mae hi'n anodd siarad am arian Ewropeaidd a gwybod lle y'n ni ar fusnes Ewrop ar hyn o bryd - ond cawn weld beth sydd o'n blaen ni."