Achub pedwar nofiwr o'r m么r ym Mhenrhyn G诺yr

Ffynhonnell y llun, Kev Griffin

Mae pedwar nofiwr wedi cael eu hachub ar 么l i lanw cryf eu tynnu allan i'r m么r ger Penrhyn G诺yr.

Roedd y pedwar yn nofio ar draeth bae Three Cliffs ar 么l bod yn caiacio ar hyd yr arfordir ger traeth Oxwich.

Roedd cerrynt cryf yno ac fe dynnwyd y pedwar tua 40 metr allan i'r m么r ac i ddyfroedd dyfnion.

Roedd achubwr yr RNLI, Aran Rees yn goruchwylio'r ardal ac fe aeth allan i'r m么r i achub y pedwar gyda chymorth achubwr arall.

Dywedodd rheolwr y bad achub lleol Jacob Davies: "Mae hyn yn atgoffa pawb o gryfder y llanw ar adegau.

"Mae ymwelwyr yn cael eu cynghori i barchu peryglon y m么r ac i feddwl yn ofalus am eu diogelwch."