Pryder elusen am ffigyrau yn dangos troseddau denu plant

Mae elusen diogelu plant wedi datgelu ffigyrau yn dangos nifer y troseddau yn ymwneud â meithrin perthynas â phlant.

Dywedodd yr NSPCC bod dros 150 o bobl wedi cael eu cyfeirio at yr heddlu am droseddau meithrin perthynas (grooming) yn y pum mlynedd diwethaf.

Dangosodd y ffigyrau, gafodd eu datgelu drwy gais Rhyddid Gwybodaeth, mai Heddlu Dyfed Powys oedd wedi cofnodi'r nifer uchaf o droseddau.

Roedd bron i 60% o'r achosion yn cynnwys elfen o feithrin perthynas ar-lein.

Yn ôl y ffigyrau fe gofnodwyd 155 achos o oedolyn yn cyfarfod â phlentyn ar ôl meithrin perthynas â nhw am resymau rhywiol ar draws Cymru.

Cofnodwyd 60 trosedd gan heddlu Dyfed Powys, 35 gan Heddlu De Cymru, 34 gan Heddlu Gwent a 26 gan Heddlu Gogledd Cymru.

Mae trosedd meithrin perthynas yn cael ei ddiffinio fel achos o rywun yn adeiladu cysylltiad emosiynol â phlentyn er mwyn eu cael nhw i ymddiried ynddynt, a hynny er mwyn gallu cymryd mantais ohonynt neu gyflawni trais rhywiol.

Diogelwch ar-lein

Yn ôl yr NSPCC mae troseddau'n gallu digwydd ar-lein neu i ffwrdd o'r we, a dyw plant yn aml ddim yn sylweddoli bod rhywun yn meithrin perthynas â nhw a'i fod yn ffurf o drais rhywiol.

"Rydyn ni'n gwybod mewn nifer fawr o achosion bod ymosodiadau ar blant yn cael eu cyflawni gan bobl sydd wedi meithrin perthynas â nhw gyntaf ar gyfer y pwrpas hwnnw," meddai Peter Wanless, prif weithredwr yr NSPCC.

"Fel mae'r ffigyrau'n dangos, mae'r rhan fwyaf o'r meithrin perthynas yma bellach yn digwydd ar-lein.

"Mae'r rhyngrwyd yn adnodd gwych er mwyn addysgu plant am y byd o'u cwmpas a beth sydd ganddi i'w gynnig, ond mae angen eu dysgu nhw am y peryglon ar-lein a'r ffyrdd y gallan nhw gael eu hecsploetio."

Ychwanegodd prif weithredwr yr elusen fod angen mwy o addysg ar ddiogelwch ar-lein mewn ysgolion.

Mae'r NSPCC hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad yn y maes, gan ddweud bod angen cynllun ar ddiogelwch ar-lein wedi'i arwain gan grŵp o arbenigwyr.

Ffynhonnell y llun, PA

Profiad un ferch

Mae Louise* yn 17 oed ac yn byw yn y Cymoedd. Fe ddechreuodd ddefnyddio gwefannau sgwrsio ar y we pan oedd hi'n naw oed, ac mae'n dweud iddi sgwrsio â nifer o ddynion hŷn oedd wedi ceisio dod yn ffrindiau â hi ac yna gofyn iddi anfon lluniau anweddus iddyn nhw.

"Pan ro'n i'n 14, fe ddechreuais i siarad â Paul*, dyn 30 oed a ddywedodd wrthai ei fod yn 24. Roeddwn i'n meddwl ein bod ni'n ffrindiau da iawn ond yna fe wnaeth y berthynas ddatblygu.

"Cafodd Paul ei arestio am ddangos delweddau anweddus i ddwy ferch ar drên a pan aeth yr heddlu a'i gamera fe ddaethon nhw o hyd i sgyrsiau a lluniau ohono ei hun yr oedd wedi ei anfon ata i. Fe wnaethon nhw ddefnyddio'r rhain i ddod o hyd i mi. Fe wnaeth wynebu tri honiad o gymryd rhan mewn gweithred ryw gyda phlentyn, oedd yn ymwneud â fi, a 20 honiad yn ymwneud â delweddau anweddus o blant eraill.

"Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn anodd iawn i fy rhieni i wybod beth oedd y peth gorau i'w wneud drwy'r cyfan. Mae fy mam a fy nhad yn eu 40au. Doedd ganddyn nhw erioed Facebook a Habbo a'r math yna o beth. Pan roeddwn yn fach roedd pob dim am beryglon dieithriaid - 'paid a siarad â dieithryn, os yw dieithryn yn gofyn i ti fynd i'w dŷ paid a gwneud hynny'. Ond yna fe ddaeth Facebook, ag am nad oedden nhw'n gwybod beth oedd e chwaith, roedden nhw mor ddiniwed â fi."

*mae'r enwau wedi cael eu newid

Gwersi ysgol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd difrifol diogelu plant a phobl ifanc ar-lein. Mae gennym ni raglen ymwybyddiaeth ac addysg e-ddiogelwch cynhwysfawr ar draws Cymru. Mae hyn yn caniatáu i ysgolion gael mynediad i adnoddau ar-lein a deunydd i'r dosbarth er mwyn cynorthwyo disgyblion i feddwl yn feirniadol, ymddwyn yn saff, a bod yn gyfrifol ar-lein.

"Rydyn ni hefyd wedi creu canolfan ar-lein, Hwb, sydd yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc wrth aros yn saff ar y we."

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cynnal bron i 1,900 o wersi mewn ysgolion yn 2014/15 er mwyn addysgu pobl ifanc am beryglon ar y we gan gynnwys pobl yn meithrin perthynas, cymryd mantais yn rhywiol a'r risg o rannu lluniau anweddus.

"Mae ymchwiliadau i droseddau o'r math yma'n cael eu cymryd yn ddifrifol iawn. Mae gennym ni swyddogion arbenigol sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol i ddelio â dioddefwyr a chosbi'r rheiny sydd yn gyfrifol," meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.

Yn eu hymateb hwythau pwysleisiodd Heddlu De Cymru bwysigrwydd adnabod peryglon yn gynnar er mwyn atal y math yma o droseddau rhywiol yn erbyn plant, gan weithio gydag elusennau, ysgolion a sefydliadau perthnasol eraill.

"Mae amddiffyn plant bregus yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru, ac rydym yn ymrwymedig i daclo pob ffurf o fanteisio a thrais rhywiol yn erbyn plant," meddai llefarydd.