Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carcharu gyrrwr wedi marwolaethau tad a mab
Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu am 16 mis am achosi marwolaethau tad a mab, Stuart a Fraser Bates, wrth iddynt groesi ffordd yn Nhonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf.
Fe wnaeth Joshua Staples, 22 oed o Donyrefail bledio'n euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal.
Cafodd Mr Bates, 43 o Lanisien, Caerdydd, a'i fab saith oed, eu taro gan gar Staples wrth iddynt groesi'r A4119 tua 00:30 ar 么l bod mewn parti Nadolig ar 6 Rhagfyr.
Fe aed 芒 Mr Bates i Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle bu farw o'i anafiadau.
Cafodd ei fab, Fraser ei gludo i Ysbyty Plant Bryste, ond bu farw o anafiadau i'w ben.
Fe wnaeth Staples bleidio'n ddieuog i gyhuddiadau o achosi marwolaethau drwy yrru'n beryglus.
Fe wnaeth y llys dderbyn ei ble.
Yn ogystal 芒 carchar o 16 mis cafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ag wyth mis.