Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
P锚l-droed a hunluniau
Mae hi'n wyneb a llais cyfarwydd ar wasanaethau teledu a radio 91热爆 Cymru ac mae hi wedi creu ychydig o gynnwrf hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwleidyddion, s锚r chwaraeon a hyd yn oed y teulu brenhinol - does neb yn ddiogel pan mae Catrin Heledd a'i bys ar fotwm camera ei ff么n symudol!
Yn ystod y mis nesa' (gan obeithio y bydd Cymru yn rownd derfynol Euro 2016 ym Mharis!) bydd hi'n ceisio ychwanegu mwy o hunluniau, neu selfies, i'w chasgliad.
Mae Cymru Fyw yn eich gwahodd chi hefyd i anfon hunluniau o'ch hunain gydag enwogion yn ystod y bencampwriaeth. Gall hynny fod allan yn Ffrainc, neu'n agosach at adref.
Ond yn y cyfamser, gofynnodd Cymru Fyw yn garedig i Catrin roi ei ff么n o'r neilltu am 'chydig funudau i s么n mwy am ei hobsesiwn efo'r selffi:
'O bydded i'r hunlun barhau!'
Fy enw i yw Catrin ac ma' gen i broblem. Dwi'n hunluniwr. Dyna 'ny, 'dwi 'di cyfadde', 'dwi'n hoff o hunlun neu ddau. Ie sucker wyf am selffi...
'Dwi wastad 'di bod yn un am lun gyda'r enwogion - pan yn fyfyriwr yn Aberystwyth roedd gen i "enwog-wal" neu wall of stalk a oedd yn destun dirmyg gan gyfoedion.
Roedd safon y selebs yn amrywio cofiwch. O rai o fawrion y genedl o Gwmderi i rai o wehilion 'Big Brother' a 'Fame Academy'. Ond rhoi fy ffydd a fy nghamera i ffrind fyddwn i bryd hynny... Erbyn hyn does dim rhaid.
Gyda chlic bach o'r ff么n, mae modd sicrhau llun cam, di-ffocws, di-drefn 'da sawl g锚n... ond dio'm ots am hynny... ma'r eiliad gyda'r enwog-un ar gof a chadw a fi yn unig sy' ar fai am fethiant neu lwyddiant yr hen lun.
Tra ar grwydr 'da amryw gampau i adran Chwaraeon 91热爆 Cymru 'dwi wedi cofleidio'r arfer a thra byddai yn Ffrainc i ddilyn hynt a helynt p锚l-droedwyr Cymru mi fydda'i yn gobeithio ychwanegu at y casgliad!
Rwy' hefyd yn awyddus i weld eich ymdrechion chi - y cefnogwyr sydd yn ddigon ffodus i fod dros y Sianel a'r rhai ohonoch chi fydd yn dilyn bechgyn Chris Coleman chydig yn nes at adre'.
Gallwch anfon eich lluniau at Cymru Fyw trwy eu hanfon i'n neu ar ein cyfrif Twitter @91热爆CymruFyw gan ddefnyddio #CymruFyw. Croeso i chi eu hanfon hefyd ar e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk
O bydded i'r hunlun barhau! Dyma i chi rai o'r wynebau cyfarwydd rwy' wedi eu perswadio i dynnu llun 'da fi dros y blynddoedd diwetha':
Tim Henman
Dwi'n meddwl i fi 'neud rhyw esgus bod y cynhyrchydd yn mynnu bo fi'n cael llun gydag e... celwydd noeth! Fi o'dd yn awyddus i gael llun a dyna 'ny!
John Lloyd
Wel am ddyn hoffus - wastad yn hael iawn ei gyfweliad ac yn amlwg yn un am hunlun.
Christian Malcom
Roedd y gwibiwr yn rhan o d卯m sylwebu 91热爆 Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014. Er fy mod i awr a hanner yn hwyr yn ei gyrraedd oherwydd campau'r merched gymnasteg rhythmig, roedd e'n hapus i gael llun!
Jamie Donaldson
Ges i'r llun 'ma rhyw ddeuddydd cyn i'r Cymro gael y pwynt hollbwysig fyddai'n sicrhau bod Cwpan Ryder unwaith eto yn nwylo Ewrop.
Roedd mynd yn agos ato wedi hynny yn her am fod pawb yn awyddus i gael gair ag e - ond ges i gwtch bach ganddo ar ddiwedd y gystadleuaeth.
Sam Warburton
Er i'r Gleision golli eu g锚m yn nigwyddiad Dydd y Farn yn Stadiwm y Mileniwm y flwyddyn honno - fe dreuliodd gapten Cymru rhyw hanner awr yn cael hunluniau gyda'r dorf.
Roedd ganddo ddigon o amser, chwarae teg, i ohebydd di-nod fel fi hefyd!
Pwy yw hwn te?
Fel y gwelwch chi isod mae'r achlysuron chwaraeon mawr yn denu unigolion tu hwnt i fyd y campau. Fe lwyddes i berswadio Stephen Fry i dynnu ei lun gyda mi pan nes i daro mewn iddo fe yn Wimbledon. Pa s锚r ddewch chi ar eu traws tra'n dilyn Cymru yr ha' 'ma 'sgwn i?
Y Tywysog William a Kate
Dyma Bethan Clement, fy nghydweithwraig, yn ymuno yn yr hwyl!
Os edrychwch chi'n graff iawn rhwng y ddwy ohonom ni, fe allwch weld William a Kate. Yn rhyfedd iawn - doedd y swyddogion diogelwch ddim yn awyddus ein bod ni'n mynd yn nes atyn nhw!
Y Tywysog Hal
A dyma chi un efo g诺r fydd yn allweddol i ymdrechion Cymru yn Ffrainc. Ie... Hal! Robson! Hal Robson-Kanu!