Cylchffordd Cymru: Cyflwyno cais ariannol newydd

Mae'r cwmni tu 么l datblygiad trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy wedi cyflwyno cais ariannol newydd i Lywodraeth Cymru.

Roedd cynnig aflwyddiannus diwethaf cwmni Heads of The Valleys Development yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu'r cynllun gwerth 拢350m - gyda chwmni AVIVA yn buddsoddi'r arian.

Cafodd hynny ei wrthod gan weinidogion ym Mae Caerdydd dair wythnos yn 么l, ac ers hynny mae Heads of The Valleys Development wedi bod yn gweithio ar gynnig ariannol newydd.

Fe wnaeth y llywodraeth gadarnhau bod cynnig arall wedi ei gyflwyno.

Mae'r 91热爆 ar ddeall bod y dd锚l ddiweddaraf yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn gwarantu llai na hanner y 拢350m.

Mae prif weithredwr y cwmni, Michael Carrick, wedi dweud mai mewn sefyllfaoedd penodol y byddai'r gwarantu ariannol yn dod i rym.

Byddai hynny'n cynnwys pe bai'r prosiect yn methu ar 么l iddo gael ei adeiladu ac yna y byddai Llywodraeth Cymru yn galw'r asedion mewn.

Mae'r cynigion newydd yn cynnwys tua 拢40m yn ychwanegol o fuddsoddiad preifat, yn 么l dealltwriaeth y 91热爆.