Carwyn Jones yn galw am wahardd Ken Livingstone

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi galw am ddiarddel Ken Livingstone o'r blaid Lafur am sylwadau a wnaeth yn amddiffyn AS sydd ynghlwm 芒 honiadau'n ymwneud 芒 sylwadau gwrth-Semitaidd.

Mae Mr Livingstone, cyn faer Llundain, nawr wedi ei wahardd wrth i'r blaid ymchwilio.

Mae'r AS Llafur John Mann yn wynebu cerydd am gyhuddo Mr Livingstone o amddiffyn Nats茂aeth yn ystod dadl y tu allan i un o stiwdios y 91热爆.

Roedd yn cyfeirio at sylwadau a wnaeth Mr Livingstone am Adolf Hitler.

Dywedodd Carwyn Jones: "Does dim lle i'r safbwynt sydd gyda Ken. Does dim lle iddo fe dim rhagor yn y blaid. Digon yw digon a dyle fe gael ei dorri allan nawr o'r blaid."

'Ffeithiau'

Dechreuodd y ffrae ar 么l i AS Llafur arall, Naz Shah, gael ei gwahardd gan y blaid am sylwadau a wnaeth am Israel ar wefannau cymdeithasol.

Mewn cyfweliad ddydd Iau, fe wnaeth Mr Livingstone amddiffyn Ms Shah, gan ddweud nad oedd erioed wedi clywed unrhyw sylwadau gwrth-Semitaidd yn y blaid.

Dywedodd mai "polisi Hitler pan enillodd ei etholiad yn 1932 oedd y dylai Iddewon gael eu symud i Israel".

Ychwanegodd bod Hitler yn "cefnogi Seioniaeth" cyn "mynd o'i go a lladd chwe miliwn o Iddewon".

Fe wnaeth Mr Mann gwestiynu sylwadau Mr Livingstone wrth i'r cyn faer gyrraedd stiwdios y 91热爆 yn Llundain.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Mr Livingstone wadu ei fod wedi galw Hitler yn Seionydd, gan ddweud ei fod yn trafod "ffeithiau" hanesyddol.