Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cost trafnidiaeth bws myfyrwyr i gynyddu yng Ngwynedd
Mae cynllun dadleuol i gynyddu cost trafnidiaeth bws i fyfyrwyr dros 16 oed yng Ngwynedd wedi ei gymeradwyo gan gynghorwyr.
O fis Medi ymlaen bydd rhaid i fyfyrwyr chweched ddosbarth a cholegau dalu 拢100 y tymor am y gwasanaeth.
Ar hyn o bryd, mae'r mwyafrif yn talu 拢60 y tymor.
Yn 么l Cyngor Gwynedd mae dwy ran o dair o wir gost y gwasanaeth yn dod o gymhorthdal gan yr awdurdod, a does dim gorfodaeth statudol i ddarparu trafnidiaeth i ddisgyblion sydd dros 16 oed.
Roedd myfyrwyr o Goleg Meirion Dwyfor wedi gwrthwynebu'r cynllun, ond dywedodd y cyngor bod y prisiau wedi aros ar yr un lefel ers pum mlynedd cyn y cynnydd yma.
Nawr mae'r Cyngor am sefydlu fforwm i fyfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor yn dilyn cwynion gan rai am y gwasanaeth.