Heddlu Dyfed-Powys: 'Angen gwella' agweddau o'i gwaith

Mae angen gwella'r modd mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin 芒'r cyhoedd, medd y corff sy'n goruchwylio heddluoedd.

Daw hyn yn dilyn archwiliad o'r 43 o luoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC).

Nid oedd Heddlu Dyfed Powys "wedi gwneud digon i ddatblygu diwylliant moesegol", meddai archwilwyr.

Angen gweithredu

Dywedodd comisiynydd heddlu a throseddu Dyfed Powys bod angen gweithredu yn dilyn yr archwiliad.

"Rhaid i Heddlu Dyfed Powys wneud mwy i ddatblygu diwylliant mwy agored ac un sy'n cwestiynnu mwy. Rwyf am weld gwelliant ar hyn", meddai'r Comisiynydd Christopher Salmon.

"Rwyf wedi egluro i'r Prif Gwnstabl fod ganddo, fel y mae'r adroddiad yn nodi, fwy i'w wneud."

Roedd Heddlu Dyfed-Powys yn un o bum llu yng Nghymru a Lloegr i dderbyn cerydd gan yr Arolygaeth, wedi i archwilwyr fesur sut yr oedd swyddogion yn cydweithio gydag unigolion a chymunedau.

Edrychodd HMIC hefyd ar y ffordd yr oedd drylliau Taser yn cael eu defnyddio, a grymoedd yr heddlu i atal ag archwilio pobl.

Er y feirniadaeth am ddiffygion o ran diwylliant y llu, cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu canmol am eu defnydd o rymoedd atal ag archwilio, a'u defnydd o ddrylliau Taser.

Cafodd y tri llu Cymreig arall eu mesur fel rhai 'da' ar y cyfan, gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn derbyn clod am y ffordd y maen nhw'n ymdrin 芒'r cyhoedd.