Cwest cyfreithiwr o Wynedd: Marwolaeth ddamweiniol

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd

Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos dyn 27 oed fu farw mewn gwrthdrawiad 芒 char ar ffordd osgoi ger Caernarfon.

Bu farw Dafydd Tudur - oedd yn wreiddiol o Forfa Nefyn - yn y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi'r Felinheli ym mis Mawrth 2015.

Roedd Mr Tudur yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Morfa Nefyn, Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor.

Roedd yn byw yn y Felinheli ac yn gweithio fel cyfreithiwr ym Mangor.

Clywodd y cwest fod Mr Tudur wedi bod yn gwylio g锚m rygbi gyda chyfaill yn y Felinheli yn ystod prynhawn dydd Sadwrn, 21 Mawrth, cyn mynd ymlaen i Gaernarfon.

Dywedodd crwner y gogledd orllewin, Dewi Pritchard Jones, fod Mr Tudur wedi penderfynu cerdded adref ar hyd y ffordd osgoi gan mai dyma'r ffordd gyflymaf i'w gartref.

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi'r Felinheli ger Caernarfon

'Dillad tywyll'

Ychwanegodd ei fod yn gwisgo dillad tywyll ac y byddai hynny wedi ei gwneud yn anodd ei weld, ac er ei fod wedi bod yn yfed ar y noson, doedd lefel yr alcohol yn ei gorff ddim mor uchel fel ei fod yn hollol feddw.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd tri o bobl oedd yn y cerbyd eu cludo i Ysbyty Gwynedd gyda man anafiadau.

Dywedodd gyrrwr y tacsi, Terry Moxon wrth y cwest nad oedd yn cofio gweld Mr Tudur o gwbl cyn i'w gerbyd ei daro, ac fe glywodd glec fawr cyn sylweddoli bod rhywbeth o'i le.

Roedd cerbyd Mr Moxon mewn cyflwr da ac nid oedd yn gyrru'n gyflymach na 60mya yn 么l tystiolaeth gafodd ei gyflwyno i'r cwest.

Dywedodd y crwner fod Dafydd Tudur wedi marw o nifer o anafiadau, ac fe gofnododd achos o farwolaeth drwy ddamwain.