Artist coluro o Gymru wedi'i henwebu am Oscar

Ffynhonnell y llun, Sian Grigg

Mae'r artist coluro o Gymru, Si芒n Grigg, wedi cael ei henwebu am Oscar.

Cafodd ei henwebu yn yr adran golur a gwallt gorau am ei gwaith ar ffilm ddiweddaraf Leonardo DiCaprio, The Revenant.

Dau aelod arall y t卯m colur a gwallt gorau yw Duncan Jarman a Robert Pandini a hon yw'r ffilm sydd wedi cael y nifer uchaf o enwebiadau, 12 i gyd.

Dywedodd Si芒n wrth 91热爆 Cymru Fyw fod yr enwebiad yn "annisgwyl ond yn syrpreis neis iawn."

'Ffilm galed'

"Es i allan i Los Angeles wythnos diwethaf i roi cyflwyniad ar waith colur The Revenant i banel yr Academi, a phan welais i safon y ffilmiau eraill, do'n i wir ddim yn disgwyl mynd drwyddo," meddai.

Dywedodd hi fod y ffilm wedi bod yn heriol iawn.

"Roedd hi'n ffilm galed iawn i'w gwneud o achos y tywydd, ond hefyd roedd hi'n anodd yn dechnegol.

"Fe wnes i fwy o golur ar un person yn y ffilm yna nag ydw i wedi ei wneud yn fy holl yrfa o'r blaen."

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, Mae Leonardo DiCaprio wedi galw Si芒n Grigg yn 'athrylith' am ei gwaith coluro

Mae Si芒n wedi gweithio fel artist coluro personol i Mr DiCaprio sawl gwaith.

Wrth dderbyn y wobr am yr Actor Gorau yn seremoni'r Golden Globes nos Sul fe ddywedodd yr actor fod y Gymraes yn "athrylith" ac yn "dalent anghygoel."

"Roedd yn hyfryd bod Leo wedi diolch i fi yn y Golden Globes," meddai Si芒n.

Disgrifiad o'r sainSi芒n Grigg, sydd wedi i ei henwebu am y Colur a'r Gwallt gorau am 'The Revenant', yn cael ei holi gan Alun Thomas.

"Ac achos bod pawb wedi gweithio mor galed ar y ffilm, mae'n wych bod y ffilm gyfan a chymaint o'r criw wedi cael enwebiadau."

Yn ddyledus

Yn gynharach eleni mi fuodd hi'n siarad gyda 91热爆 Cymru Fyw am ei phrofiadau ar ffilmiau fel Titanic, Saving Private Ryan a The Wolf of Wall Street.

Dywedodd ei bod hi'n ddyledus i'w hathro celf yn Ysgol Gyfun Glantaf, Anthony Evans, am "roi help mawr" iddi ddechrau ei gyrfa fel artist.

Ar 么l gadael yr ysgol aeth i Goleg Celf Caerdydd a Choleg Ffasiwn Llundain.

Mae hi hefyd wedi wedi ei henwebu am Bafta yn yr un adran.

Felly ydy hi'n edrych ymlaen at fynd i'r seremon茂au? "Ydw," meddai. "Mae'n esgus da i fynd i siopa am ffrog."

Bydd cyfle i glywed sgwrs gyda Si芒n Grigg ar raglen y Post Cyntaf Radio Cymru fore Gwener.