Dros 500 achos o oedi i'r gwasanaeth t芒n mewn 3 blynedd

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth T芒n ac Achub y Gogledd

Mae diffoddwyr t芒n yng Nghymru wedi wynebu dros 500 achos o oedi cyn gallu dechrau diffodd tanau o fewn y tair blynedd diwethaf, yn 么l ffigyrau sydd wedi dod i law 91热爆 Cymru.

Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru welodd y nifer mwyaf o achosion - 460 ers dechrau Ionawr 2013.

Yn y cyfnod hwnnw, fe ddeliodd y gwasanaeth gyda dros 4,000 o danau.

Dywedodd un dyn t芒n wrth y 91热爆 fod oedi yn "ddigwyddiad dyddiol, weithiau'n digwydd nifer o weithiau'r un diwrnod."

Wynebodd ymladdwyr t芒n y Gorllewin a'r Ganolbarth oedi 11 o weithiau mewn tair blynedd, a'r Gogledd 57 o weithiau.

Y prif reswm dros yr oedi oedd trafferthion wrth geisio cyrraedd safleoedd. Hynny oedd i gyfri am 364 o'r achosion, tra bod 114 o achosion oherwydd nad oedd y gwasanaeth yn gallu dod o hyd i'r t芒n.

Cafodd ymladdwyr t芒n eu hanfon i'r cyfeiriad anghywir 47 o weithiau, tra bo'r gwasanaeth wedi ei ddal yn 么l dair gwaith oherwydd aflonyddwch sifil.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth T芒n y gallai'r oedi roi bywydau mewn perygl.

Ond welodd Sir Gaerfyrddin ddim un achos o oedi yn ystod yr un cyfnod, a dim on un gafodd ei gofnodi yng Ngheredigion a Sir Benfro.