Angen 'degawd' i helpu pobl sydd 芒 phroblem alcohol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd canolfannau cam-drin alcohol yn delio gyda'r broblem "am y degawd nesaf", yn 么l un o elusennau mwyaf Cymru.

Dywedodd Cais bod y ffocws ar y genhedlaeth h欧n ar hyn o bryd, ac mai'r dasg nesaf fydd atal pobl ifanc rhag troi at alcohol.

"Mae'r broblem alcohol am fod gyda ni am y degawd nesaf," meddai prif weithredwr yr elusen, Clive Wolfendale.

"Rhaid i ni atal y genhedlaeth nesaf rhag dod yn gaeth iddo.

"Edrychwch ar batrymau yfed ymysg pobl yn eu harddegau - mae'n gostwng, ac mae hynny i'w groesawu."

Er bod Cais wedi gweld y cydbwysedd yn symud fwy tuag at ddelio gydag achosion alcohol na chyffuriau dros y blynyddoedd diwethaf, mae Mr Wolfendale yn credu mai cyffuriau penfeddwol cyfreithlon - neu legal highs - fydd y brif broblem yn y dyfodol.

"Mae'n broblem enfawr," meddai. "Mae'r pethau 'ma yn dod ar y stryd ar gyflymdra brawychus.

"Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd yn si诺r o gael effaith."