Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pyncs Cymru a'r Sex Pistols
Mae amryw yn cyfrif 14 Rhagfyr 1976 fel dyddiad roddodd ysgytwad i gerddoriaeth yng Nghymru.
Roedd 'na brotestio ffyrnig yng Nghaerffili i groesawu gr诺p pync The Sex Pistols a oedd wedi eu gwahodd i berfformio yn sinema'r Castle yn y dref.
Cyn hyn roedd John Lydon, Paul Cook, Glenn Matlock a Steve Jones wedi perfformio yng Nghymru heb wynebu'r un gwrthwynebiad. Newidiodd popeth ar 么l i'r Pistols regi ar raglen deledu Bill Grundy a oedd yn cael ei darlledu yn fyw amser te ar 1 Rhagfyr.
Er gwaetha'r cyhuddiadau yn eu herbyn, mi lwyddodd The Sex PIstols a'u hagwedd ddi-gyfaddawd i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion ifanc. Dyma i chi rai o'r bandiau Cymraeg gafodd eu dylanwadu gan y diwylliant pync dros y blynyddoedd: