Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwrthdrawiad Llantrisant: Cyhoeddi enw tad a mab fu farw
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau tad a'i fab saith oed fu farw wedi i'r ddau gael eu taro gan gar yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gafodd Stuart Bates, 43 oed, a'i fab Fraser eu taro ar yr A4119 ger Llantrisant ar gyrion pentref Tonysguboriau am tua 00:30 ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu'r De bod dyn 22 mlwydd oed oedd yn gyrru car Alfa Romeo wedi ei arestio yn dilyn y digwyddiad, ond ei fod bellach wedi'i ryddhau ar fechn茂aeth.
Roedd Mr Bates, o Lanisien, Caerdydd, yn rheolwr technoleg gwybodaeth yng Nghaerffili, a bu farw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fuan wedi'r gwrthdrawiad.
Bu farw Fraser - disgybl yn Ysgol Gynradd Llysfaen - yn Ysbyty Plant Bryste nos Sul.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.