Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Meddygon awyr: 'Achub 600 mewn chwe mis'
Mae'r gwasanaeth "meddygon yn hedfan" wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi rhoi triniaeth achub bywyd i fwy na 600 o bobl yn y chwe mis cyntaf.
Mae'r gwasanaeth gofal meddygol brys yn gosod meddygon mewn ambiwlansys awyr er mwyn darparu triniaethau fel arfer ar gael mewn ysbytai yn unig.
Roedd mwy na thraean o alwadau ff么n yn ymwneud 芒 thrawiadau ar y galon, ac roedd un ym mhob pum ymgyrch achub yn ymateb i ddamwain ffordd.
Fe ddechreuodd y bartneriaeth rhwng Ambiwlans Awyr Cymru, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru ym mis Ebrill.