Mae e tu ôl i chi!

Mae'n un o draddodiadau'r Dolig i lawer. Fyddwch chi 'n mynd i weld pantomeim dros y dyddiau nesaf neu falle eich bod chi eisoes wedi bod i'r theatr ac wedi joio mas draw.

Ar un adeg roedd Cwmni Theatr Cymru yn teithio ar hyd a lled y wlad gyda phantomeim blynyddol. Ydych chi'n cofio rhai o'r cynhyrchiadau yma? Mae Cymru Fyw yn diolch i Archifau Gwynedd am gael dangos y lluniau.

Disgrifiad o'r llun, Mawredd Mawr: Dylan Jones fel y Brenin Cwallter Caswallon a Beryl Hall fel y Frenhines Martha
Disgrifiad o'r llun, Gweld Sêr (1972): Grey Evans fel y Dewin Gwyrdd a Iona Banks fel y Wrach Ddu
Disgrifiad o'r llun, Cast Mwstwr yn y Clwstwr: Ifan Huw Dafydd fel Abram Cadabram, Dilwyn Young Jones fel Cai, Sioned Mair fel Serian, Grey Evans fel Y Brenin Lwni, Sian Wheldon fel Aderyn, Marion Fenner fel Grisial, Gari Williams fel Micos a Gwen Ellis fel Mrs Lloerig
Disgrifiad o'r llun, Rhywbeth cyffrous yn amlwg yn digwydd yn ystod Mwstwr yn y Clwstwr
Disgrifiad o'r llun, Cast Guto Nyth Cacwn
Disgrifiad o'r llun, Golygfa o Guto Nyth Cacwn gyda Janet Aethwy, Gwen Ellis a Cefin Roberts
Disgrifiad o'r llun, Cast Madog gyda Iona Banks ar ganol y llwyfan fel y wrach
Disgrifiad o'r llun, Madog, 1976: Y cast gyda Bryn Williams fel Madog
Disgrifiad o'r llun, Afagddu, 1975: J O Jones fel Morda, Valmai Jones fel Llew Capie ac Iestyn Garlick fel Afagddu
Disgrifiad o'r llun, Golygfa gloi Afagddu gyda Iestyn Garlick yn canu ar ganol y llwyfan
Disgrifiad o'r llun, Felly pwy yw'r dyn yn y ffrog yn Rasys Cymylau?
Disgrifiad o'r llun, Jac y Jyngl, 1977: Nia Ceidiog a Valmai Jones fel Hawys a Hywel
Disgrifiad o'r llun, Mei Jones fel Jac, Wyn Bowen Harries fel Blodwen Taibach a Cefin Roberts fel Syr Powys ap Tudno Le Grand yn Jac y Jyngl