Ffrae defnydd banc o'r Gymraeg

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Cadarnhaodd HSBC eu bod wedi gofyn i Robin Huw Bowen adael y gangen

Mae telynor o Aberystwyth yn honni ei fod wedi ei wahardd o un o fanciau'r dre' wedi iddo gwyno am "ddiffyg parch" i'r Gymraeg ar arwyddion.

Mae Robin Huw Bowen yn anhapus gydag un arwydd yn benodol ym manc yr HSBC yn Aberystwyth, sef arwydd i groesawu cwsmeriaid i'r gangen.

Yn 么l Mr Bowen, mae'r gair Welcome mewn llythrennau bras yn y canol, a'r gair Croeso mewn llythrennau bach ymhlith ieithoedd eraill ar y gwaelod.

Dywedodd HSBC eu bod yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac y byddan nhw'n ystyried cwyn Mr Bowen yn llawn.

'Eilradd'

Dywedodd Mr Bowen wrth 91热爆 Cymru Fyw: "Es i mewn a gweld yr arwydd, ac eto rai misoedd wedyn ac roedd o'n dal yno. Nes i gwyno'r eildro, codi llais am y peth.

"Dwi'n credu bod yr arwydd yn trin ni'r Cymry Cymraeg yn eilradd yn ein gwlad ein hunain. Mae'r Gymraeg wedi'i hisraddio i fod ar yr un lefel ag ieithoedd estron fel Sbaeneg, Portiwgeaidd, Ffrangeg, Arabeg ac yn y blaen.

"Dydy o ddim yn ddigon da. Y bobl dwi wedi siarad hefo nhw, maen nhw i gyd yn cytuno hefo fi.

"Tase hyn wedi digwydd gydag unrhyw leiafrif cydnabyddedig arall - pobl dduon, Mwslemiaid ac ati - fasa nhw 'di cymryd y peth cymaint mwy o ddifri.

"Mae'n digwydd mewn llefydd eraill, nid dim ond yr HSBC - 'da ni'n aml yn gweld y Gymraeg dan y Saesneg, mewn print llai. Hiliaeth drwy ddamwain neu drwy fwriad - mae difaterwch yn peri hiliaeth."

"Mae'r frwydr dros yr iaith yn bell o fod drosodd. Da ni'n colli tir o hyd ac o hyd oherwydd bod y cwmn茂au mawr 'ma ddim yn gorfod defnyddio'r Gymraeg. Dydy pobl ddim yn cwyno digon."

Disgrifiad o'r llun, Mae Robin Huw Bowen yn anhapus nad yw'r Gymraeg yn ddigon amlwg ar arwyddion

'Ystyriaeth lawn'

Mewn ymateb i honiadau Mr Bowen, dywedodd llefarydd ar ran banc yr HSBC:

"Rydym wedi gweithio yn galed i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae gennym hefyd fel cwmni berthynas glos gyda Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg er mwyn ein helpu i gyfathrebu yn y modd mwyaf effeithiol gydag ein cwsmeriaid.

"Rydym wedi rhannu pryder Mr Bowen am yr arwydd gydag ein hadran sy'n gyfrifol am y Gymraeg gan ein bod yn cymryd barn cwsmeriaid o ddifri. Fe fyddwn yn sicrhau bod y g诺yn yn cael ystyriaeth lawn gan y t卯m.

"Mae'n ddrwg gennym fod yr arwydd yn Aberystwyth wedi peri gofid i Mr Bowen ond oherwydd ei ymddygiad roedd yn rhaid i ni ofyn iddo adael y gangen, gan ei fod wedi aflonyddu'n ormodol ar gwsmeriaid eraill. Ni wnaethpwyd y penderfyniad hynny ar chwarae bach a'r dewis olaf o hyd yw gofyn i rywun adael."

'Honiad difrifol'

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Mae hwn yn honiad difrifol. Mae unrhyw sefyllfa lle mae unigolyn yn dioddef neu'n cael ei wahardd o sefydliad ar sail cwyno am ddiffyg statws i'r Gymraeg yn annerbyniol.

"Byddwn yn cysylltu 芒'r HSBC yng Nghymru ar fyrder er mwyn sefydlu'r ffeithiau a'u hatgoffa bod statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru.

Ychwanegodd: "Er nad yw'r sector ariannol yn cael ei enwi yn y ddeddfwriaeth fel sector sy'n gorfod cynnig gwasanaethau yn Gymraeg; mae'r Comisiynydd wedi edrych yn fanwl ar ddarpariaeth Gymraeg banciau'r stryd fawr a llunio adolygiad.

"Ym mis Mai fe gyhoeddodd y Comisiynydd adroddiad ei hadolygiad a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth gan gwsmeriaid a gwybodaeth a ddarparwyd gan y banciau eu hunain. Roedd yr adroddiad yn nodi casgliadau ac argymhellion ar gyfer gwella'r profiad i siaradwyr Cymraeg.

"Ers hynny, mae'r Comisiynydd wedi bod yn trafod gydag uwch swyddogion y banciau yng Nghymru, a'u hannog i adnewyddu eu polis茂au iaith drwy ymrwymo i Gynllun Hybu'r Gymraeg."

Bydd y stori'n cael sylw rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru am 13:00 ddydd Mercher.