Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Llinos Mai
Yr actores Llinos Mai sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Rhys ap Trefor yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy nhad yn mynd 芒 fi i weld El Bandito yn reslo yn Ysgol Casmael. Nes i gwrdd 芒'r dyn ei hun ar 么l y sioe a fe shiglodd e fy llaw a dweud "Wel, helo Llinos Mai, ti o'dd seren y sioe". 'Sdim clem da fi pam wedodd e'r fath beth ond mae'n werth s么n taw fi odd yr unig blentyn yn y gynulleidfa!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Dwi am fynd am ddau, pl卯s. Michael Praed a o'dd yn chwarae Robin Hood yn y rhaglen 'Robin of Sherwood' yn yr wythdegau. A Simon Le Bon o Duran Duran. A John Taylor o Duran Duran. Ok, gai ddewis 3?!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Es i mas 'da ffrindiau i'r dafarn cwpwl o fisoedd n么l. O'n i 'di penderfynu gwisgo heels achos o'n i angen ymarfer eu gwisgo nhw ar gyfer rhan mewn comedi o'n i'n ffilmio y diwrnod wedyn. O'dd pawb yn s么n pa mor neis o'n i'n edrych yn fy heels ac o'n i'n dechre teimlo'n hyderus iawn (rhy hyderus yn edrych n么l!).
O'dd un o fy ffrindiau wedi dod 芒'i gi gyda fe. Dyma ni'n gadael y dafarn ac yn symud i dafarn arall ac o'n i'n benderfynol o gerdded gyda Steve y ci. Fe gerddon ni trwy faes parcio weddol dywyll. Gwelodd Steve y palmant yn codi ond yn anffodus weles i ddim byd a lawr a fi fel tunnell o frics.
Fe 'werthodd fy ffrindie am tua awr ar 么l 'ny. A gorffes i wisgo tights ar gyfer y fflimio y diwrnod wedyn gan bod 'na glais du ar fy mhenglin!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Gweler uchod!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta losin. Yn enwedig pan dwi'n 'sgrifennu ac o dan bwyse deadline. Drwg iawn!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n ferch o Sir Benfro felly ma' rhaid dewis Sir Benfro. Yn enwedig mynyddoedd y Preseli neu rhywle ar lan y m么r, Porthgain neu Whitesands.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noswaith recordion ni raglen radio 'The Harri-Parris Radio Show' o fla'n cynulleidfa. A wedyn noswaith o ddathlu ar 么l. A dweud y gwir ma' unrhyw noswaith mas 'da criw yr Harri-Parris yn meddwl un peth yn unig - lot fawr o ddwli!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Doniol. Direidus. Dwl.
Beth yw dy hoff lyfr?
'The Humans' gan Matt Haig.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy bobble hat wl芒n. Ma fe'n ffantastig am gadw fy ngwallt gwyllt o dan reolaeth.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'A Mighty Wind' am y degfed gwaith. Werth gweld am fonolog Fred Willard. Gwych!
Mewn ffilm o dy fywyd, pa actores fyddai'n chwarae dy ran di?
Dawn French. Byddai hi'n bendant yn gallu dod 芒 lot o hiwmor i'r stori. A ma' 'na LOT fawr o hiwmor i'w ail-greu mewn ffilm o fy mywyd i.
Dy hoff albwm?
Ar y funud - Goldie Looking Chain - 'Greatest Hits'. Cerddoriaeth a hiwmor yn un - perffaith.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Pwdin bob tro! Yn enwedig powlen o hufen i芒.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Sarah Millican achos hoffen i gael yr hyder i wneud stand up. A ma' hi'n arbennig o dda. A mae'n edrych i fod yn person lyfli 'fyd.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Rhian Morgan.