Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arolwg o ofal iechyd meddwl yn y gogledd wedi beirniadaeth
Mae'r cyngor iechyd cymunedol wedi galw ar bobl yn y gogledd i rannu eu barn am wasanaethau iechyd meddwl mewn arolwg yn dilyn adroddiad beirniadol ar safon gofal mewn uned iechyd meddwl mewn ysbyty.
Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru am glywed barn pobl am wasanaethau i gleifion mewnol.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol ar safon gofal yn uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, oedd yn disgrifio "camdriniaeth sefydliadol" oedd yn bodoli yn yr uned.
Bydd y sesiwn gyhoeddus gyntaf yn cael ei chynnal yn Ysbyty Cefni ar Ynys M么n ddydd Mawrth.
Dywedodd Geoff-Ryall-Harvey, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru: "Un o'n swyddogaethau ni yw cadw golwg ar wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn rhoi darlun eglur i ni o brofiadau pobl."