Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Elwen Evans yn bennaeth coleg
Mae un o fargyfreithwyr blaenllaw y wlad wedi ei phenodi'n Bennaeth Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe.
Roedd Elwen Evans QC yn fargyfreithiwr mewn nifer o achosion llys pwysig, gan gynnwys llofruddiaeth April Jones a thrychineb Pwll y Gleision.
Hi yw Cofiadur Llys y Goron (barnwr rhan-amser) ac mae'n bennaeth siambr bargyfreithwyr ers nifer o flynyddoedd.
'Cyfle euraidd'
Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Awst.
"Rwy'n credu bod cyfle euraidd gan y coleg i gyflawni r么l bwysig mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n bleser mawr gen i gael cyfle i arwain t卯m a fydd yn dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o raddedigion y gyfraith a chyfreithwyr," meddai.
"Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y coleg a rhagoriaeth ymchwil y brifysgol.
"Rwy'n awyddus i'r coleg ddarparu addysgu o safon sy'n canolbwyntio nid yn unig ar ymchwil ond hefyd ar gyflwyno hyfforddiant, sgiliau a phrofiad academaidd ac ymarferol o safon.
Bydd yn parhau i weithio fel Cofiadur ac ar gael i weithredu mewn rhai achosion cyfreithiol.
"Fel Pennaeth y Coleg, rwy'n credu y gallaf wneud gwahaniaeth mewn cyd-destun ehangach na'r hyn sy'n bosib fesul achos yn unig.
"Rydym yn wynebu penderfyniadau allweddol ym myd y gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys cwmpas addysg ac ysgolheictod cyfreithiol, cynnwys addysgu ac ymchwil cyfreithiol, sut bydd cyfreithwyr ac ymarferwyr proffesiynol eraill yn cymhwyso yn y dyfodol, ail-lunio'r sector cyfreithiol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
"Heriau eraill fydd datblygiad awdurdodaeth Cymru i ddeddfu ac effaith cyfathrebu digidol ar wasanaethau cyfreithiol."
'Cyfraniad eithriadol'
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor a Deiliad Cadair Hodge yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n bleser mawr gennym groesawu Elwen fel Pennaeth newydd ein Coleg y Gyfraith.
"Oherwydd ei harbenigedd a'i gwybodaeth ym maes datblygiad y gyfraith, fel disgyblaeth academaidd ac yn y byd go iawn, bydd hi'n gwneud cyfraniad eithriadol i ddyfodol datblygiad y Gyfraith a Throseddeg yn Abertawe.
"Bydd ei gwybodaeth a'i phrofiad yn amhrisiadwy wrth helpu Coleg y Gyfraith i gyflawni uchelgeisiau newydd."