C么t newydd o baent

Disgrifiad o'r llun, Golygfa o gynhyrchiad gwreiddiol 'Melltith ar y Nyth' yn 1975

Bydd caneuon un o oper芒u roc eiconig yr iaith Gymraeg i'w clywed ar eu newydd wedd ar benwythnos 18-19 Gorffennaf yng Nghastell Caernarfon.

Mae hi'n 40 mlynedd ers i Hywel Gwynfryn ac Endaf Emlyn gyfansoddi 'Melltith ar y Nyth'. Bydd nifer o artistiaid cyfoes yn perfformio'r caneuon yn ystod G诺yl Arall fydd yn cael ei chynnal yn nhre'r Cofi dros y penwythnos.

Mae Hywel wedi bod yn rhannu ei atgofion am y cynhyrchiad gwreiddiol gyda Cymru Fyw:

Yr alwad

Fe ofynodd rhywun i Irving Berlin, y cyfansoddwr Americanaidd na fu ei debyg am 'sgwennu caneuon cofiadwy. "What comes first Mr Berlin, the words or the music? A'i ateb? "The phone call!"

Ac felly roedd hi efo fi, 40 mlynedd union yn 么l. Roeddwn i ar ben ysgol ar y pryd yn peintio'r t欧 pan ddaeth yr alwad.

"Hia Hyw"

"Helo Rhydd"

Rhydd oedd Rhydderch Jones, cynhyrchydd efo adran rhaglenni ysgafn ar y pryd. Gwyneb fel Dylan Thomas, a sigaret yn wastadol yn ei geg. Ffrind mawr i Ryan Davies.

"Gwranda Hyw. Dw i 'di cal syniad. 'Dw isho i chdi ac Endaf Emlyn sgwennu opera roc am y Mabinogion. OK. Gawn ni sgwrs."

A dyna hi. Yr alwad ff么n. N么l 芒 fi i ben yr ysgol a dechrau meddwl, a pheintio.

Mae'n anodd cofio erbyn hyn ai Endaf neu fi feddyliodd am y syniad o ddefnyddio stori Branwen a Matholwch, Bendigeidfran ac Efnisien.

Ond pwy bynnag gafodd y syniad gwreiddiol, roeddan ni'n dau yn gytun ein bod ni eisiau rhoi c么t o baent newydd i'r hen stori.

Tr么ns tu allan i'w drowsus

Branwen, yn flondan, rhywiol, Efnisien yn gangster efo gwn yn saethu pawb a phopeth gan gynnwys ceffyl neu ddau, a Bendigeidfran fel Siwpyrman - yn anorchfygol, yn ei grys T efo 'S' ar y tu blaen am SIWPYRBENDI - a'i dr么ns tu allan i'w drowsus tyn, wrth gwrs.

Eisteddodd Rhydderch tu 么l i'w ddesg a'i geg ar agor yn rhythu arnom mewn anghrediniaeth llwyr tra'n gwrando arnon ni'n dau yn esbonio sut yr oeddem yn bwriadu moderneiddio'r stori.

Fyddai hi ddim yn weddus i mi ddyfynu yr union eiriau a lefarodd Rhydderch ar 么l i ni orffen ein cyflwyniad (er mai dim ond dau air ddudodd o!), cyn darnio'n syniad ni yn racs a'n rhybuddio ni i gadw ar y llwybr cul gwreiddiol, traddodiadol, Mabinogol.

"Dim blondan, Siwpyrbendi, na gangsters!"

Disgrifiad o'r llun, Dafydd Hywel yn canu C芒n Efnisien

C芒n Efnisien

Ac felly y bu. Ar 么l darllen y stori wreddiol a chytuno ar them芒u, fe es i ati i sgwennu'r geiriau a'u hanfon nhw at Endaf a fynta' wedyn yn troi'r geiriau yn ganeuon efo'i alawon cofiadwy. Yn bersonol 'dwi'n teimlo mae'r g芒n orau ydi C芒n Efnisien.

"Fi yw Efnisien. Fe gewch chi wybod pam

Fe'n rhwygwyd i un noson ddu, mewn gwaed o groth fy Mam

Fi yw Efnisien y poen tu mewn i'r pen

Yr hunlle yn lle breuddwyd, y pry tu mewn i'r pren"... ac yn y blaen.

Ond wyddoch chi be'. Fedrwn i yn fy myw a meddwl am linell i gloi y g芒n, felly fe awgrymais i Endaf y gallai'r g芒n orffen yn hongian yn yr awyr fel petae gyda Efnisien yn gweiddi "Fi yw Efnisien".

Ymhen ychydig ddyddiau anfonodd Endaf y g芒n yn 么l er mwyn i mi gael gwrando arni. A bellach roedd 'na linell glo i'r g芒n. "Fi yw Efnisien - Roedd rhaid i rhywun fod." Dyna oedd ei dynged.

Diolch i Nici Beech a Dyl Mei a'r cantorion am gyflwyno'r sioe i genhedlaeth newydd. Mae Endaf a finna' wrth ein boddau fod y sioe ddaru ni'n dau ei sgwennu yn cael c么t arall o baent fresh, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

Disgrifiad o'r llun, Branwen a Matholwch (Gillian Elisa a Dewi Pws)