Cyn blismyn yn dwyn achos yn erbyn prif gwnstabl

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Lynette White ei llofruddio yn 1988

Mae dyddiad wedi ei bennu ar gyfer achos Uchel Lys lle mae wyth o gyn blismyn Heddlu De Cymru'n dwyn achos yn erbyn prif gwnstabl.

Bedair blynedd yn 么l roedd y plismyn yn wynebu cyhuddiad o lygredd yn sgil yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yn 1988.

Daeth yr achos i ben am nad oedd yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi datgelu tystiolaeth.

Doedd dim modd dod o hyd i flychau oedd yn cynnwys tystiolaeth y dylai'r amddiffyn fod wedi ei gweld.

Bydd gwrandawiad rhagarweiniol fis nesa ac achos llawn yn Hydref.

Y rhai sy'n dwyn yr achos yw'r cyn Brif Arolygwyr Graham Mouncher a Richard Powell, y cyn Brif Uwcharolygydd Thomas Page a'r cyn dditectifs Michael Daniels, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood a John Seaford.

Dywedodd yr heddlu nad oedd yn briodol iddyn nhw roi sylw.