Cyhoeddi Maes B a Llwyfan y Maes

Mae'r artistiaid a'r perfformwyr fydd yn ymddangos ym Maes B ac ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni wedi eu cyhoeddi.

Mae Llwyfan y Maes wedi datblygu'n un o leoliadau mwyaf poblogaidd yr 诺yl dros y blynyddoedd diwethaf, gan roi cyfle i'r gynulleidfa wrando ar fandiau'r sin roc a phop, ac artistiaid gwahanol o'r byd cerddorol yng Nghymru.

Ymysg y perfformwyr fydd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes yn ystod yr wythnos fydd Cymdeithas Genedlaethol Ddawns Werin Cymru, C么r Meibion Penybontfawr, sioe Stwnsh, Sipsi Gallois, Gwyneth Glyn, Brwydr y Bandiau, Kizzy Crawford, Elin Fflur a'r Band, Y Ffug, Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana, Band Pres Llareggub, S诺nami, Geraint Jarman, Yws Gwynedd, a'r Ods.

Yn ogystal, bydd rhai o fandiau ac artistiaid amlycaf Cymru yn perfformio o nos Fercher 5 Awst nes nos Sadwrn 8 Awst, gan gynnwys Bryn F么n, Candelas, S诺nami a llawer mwy.

'Apelio at bawb'

Dywedodd Guto Brychan, trefnydd Maes B ac un o gydlynwyr cerddoriaeth ar y Maes: "Rydym yn falch o gyhoeddi ein lein-yp ar gyfer eleni, ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhestr sydd ar apelio at bawb sy'n dilyn y sin roc yma yng Nghymru.

"Mae'r bandiau a'r perfformwyr mwyaf poblogaidd i gyd yn ymddangos ar y llwyfan ac rwy'n si诺r y bydd 'na awyrgylch arbennig yn yr 诺yl eto eleni.

"Rydym wedi datblygu Maes B dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf ac yn bendant dyma brif 诺yl gerddoriaeth pop a roc Cymraeg yma yng Nghymru, ac mae'r ffaith bod gennym gynifer o fandiau eto eleni yn atgyfnerthu hynny.

"Mae delwedd yr 诺yl hefyd wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf a bydd rhagor yn cael ei wneud er mwyn datblygu hyn ymhellach eleni.

"Rydym yn gobeithio y bydd cynulleidfa a chefnogwyr Maes B hefyd yn tyrru i Faes yr Eisteddfod ei hun hefyd, lle mae mwy o gerddoriaeth fyw nag erioed o'r blaen, gyda llwyfan y Maes, Caffi Maes B a'r T欧 Gwerin i gyd yn cynnig amserlenni llawn o berfformiadau drwy gydol yr wythnos.

"Felly, gallwch fwynhau'r gerddoriaeth Gymraeg orau o ganol dydd tan yn hwyr gyda'r nos ar y Maes cyn dod draw i Faes B er mwyn clywed a mwynhau ein hartistiaid diweddaraf."

Mae artistiaid Maes B yn yr eisteddfod eleni yn cynnwys Bryn F么n, Y Bandana, S诺nami, Y Reu, Casi, Band Pres Llareggub, Yws Gwynedd, DJ Huw Stephens, Candelas, Y Ffug, Cowbois Rhos Botwnnog, Enillydd Brwydr y Bandiau a DJs Mari ac Elan.

Cynhelir yr Eisteddfod ym Meifod o 1-8 Awst.