Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
£10m i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym musnesau Cymru
Fe fydd mwy na £10m yn cael ei wario dros gyfnod o dair blynedd i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw mewn busnesau a cheisio cau'r bwlch mewn tâl rhwng dynion a merched.
Mae'r arian, yn cynnwys £6.5m o nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn rhan o gynllun gwerth £11.3m sy'n cael ei redeg gan grŵp ymgyrchu Chwarae Teg.
Mae'n gweithio gyda 2,500 o ferched a 400 o gyflogwyr o 2015 i 2018 i hyrwyddo cydraddoldeb.
Fe fydd y gweinidog busnesau Jane Hutt yn cyhoeddi'r cyllid ddydd Mercher ar safle AIC Steel yng Nghasnewydd.