Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aberddawan: Llywodraeth yn y llys?
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyfeirio llywodraeth y DU i Lys Cyfiawnder Ewrop, wedi pryder nad ydi allyriadau gorsaf b诺er Aberddawan ym Mro Morgannwg - yn gostwng fel y dylen nhw.
Yn 么l y Comisiwn, mae lefel yr allyriadau nitrogen ocsid yn yr orsaf wedi bod yn uwch nag y dylai fod - o fwy na dwbl y lefel sy'n cael ei ganiat谩u - am saith mlynedd.
Gall nitrogen ocsid achosi problemau i bobl 芒 salwch yn ymwneud 芒'r ysgyfaint.
Dan ddeddf UE ar allyriadau gan safleoedd mawr - roedd gan aelodau tan Ionawr 1 2008 i ostwng allyriadau nifer o lygreddau o orsafoedd p诺er.
Ond dyw Aberddawan heb gyrraedd y nod.
Er hyn, mewn datganiad, fe ddywedodd y Comisiwn eu bod "yn cymryd i ystyriaeth fod y DU wedi bod yn gweithio ar y mater, gyda'r nod o ddod o hyd i ddatrysiad".
Fe fynegodd y Comisiwn bryder am y safle 'nol yn 2013, ac unwaith eto fis Hydref y llynedd.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU:
"Mae safon yr aer wedi gwella'n sylweddol yn degawdau diweddar - 'dy ni wedi buddsoddi 拢2 biliwn ers 2011 er mwyn i hyn barhau. 'Dy ni'n taclo allyriadau gan safleoedd diwydiannol drwy osod cyfyngiadau llym ar y safleoedd, yn cynnwys gorsafoedd p诺er glo.
"Mae gorsaf Aberddawan hefyd yn buddsoddi i gyd-lynnu 芒 chyfyngiadau'r UE yn y dyfodol.
"fe fyddai'n anaddas i ni wneud sylw pellach ar yr achos, gan ei fod eisoes ar droed".