Teyrnged i Dafydd Tudur wedi gwrthdrawiad Y Felinheli

Ffynhonnell y llun, North Wales Police

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Dafydd Tudur yn y fan a'r lle

Mae teyrnged wedi ei roi i ddyn 27 oed fu farw wedi iddo gael ei daro gan gar yng Ngwynedd yn oriau m芒n fore Sul.

Bu farw Dafydd Tudur - oedd yn wreiddiol o Forfa Nefyn - yn y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi y Felinheli am tua 3:20am.

Roedd Mr Tudur yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Morfa Nefyn, Nefyn, Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor.

Roedd yn byw yn y Felinheli ac yn gweithio fel cyfreithiwr ym Mangor.

Mewn datganiad, dywedodd ei dad, Gareth Tudor Morris Jones: "Mae hyn wedi bod yn sioc arthurol i ni gyd.

"Bydd yna fwlch enfawr yn y teulu ar 么l Dafydd Tudur ond rydan ni hefyd yn diolch am y saith mlynedd ar hugain llawn hapusrwydd a gafwyd efo Dafydd."

Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau wedi'r gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd berson yn cerdded ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad i gysyllltu 芒 ni."