Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Mwy o fenywod mewn bywyd cyhoeddus'
Mae Jane Hutt yn dweud y gellid defnyddio pwerau newydd llywodraeth Cymru i ddenu rhagor o fenywod i swyddi cyhoeddus.
Wrth i Gymru nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, fe ddywedodd Jane Hutt - sydd wedi bod yn weinidog cabinet ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999: "Petaen ni'n gallu defnyddio'r gyfraith, yna fe fydden ni'n gwneud hynny.
"Dw i'n credu fod y pwerau newydd sydd ar droed yn rhoi'r cynulliad mewn lle da iawn."
Mewn sgwrs 芒 rhalgen Sunday Politics Wales, fe ddywedodd bod "camau breision" wedi bod wrth geisio cael rhagor o fenywod ar fyrddau cyhoeddus, drwy "weithredu'n bositif a chadarnhaol" er mwyn codi ymwybyddiaeth a thargedu merched.
Fodd bynnag, ychwanegodd, mae mwy o waith i'w wneud.
Fe ddywedodd Ms Hutt ei bod hi'n falch o'i r么l yn y byd gwleidyddol yng Nghymru: "Fe wnes i helpu i ddechrau'r lloches Cymorth i Ferched cyntaf, ro'n i'n rhan o'r gweithdy hyfforddi merched cyntaf, a fi oedd cyfarwyddwr Chwarae Teg - cyn i mi gael fy ethol yn AC. Dyna 'ngwleidyddiaeth i."
Yn rhan o'r Cytundeb G诺 yl Ddewi, bydd y cynulliad cenedlaethol yn cael pwerau newydd dros etholiadau'r cynulliad a chynghorau.
Ar hyn o bryd, mae 40% o ACau yn fenywod - 50% oedd y ffigwr yn 2003. 27% o gynhorwyr sy'n fenywod yng Nghymru.
Sunday Politics Wales, 91热爆1 Wales, 1100 ddydd Sul.