Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth am atal ffracio nes bod prawf ei fod yn ddiogel
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu eu bod nhw am geisio atal ffracio tan fod prawf ei fod yn ddiogel.
Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n cefnogi cynnig Plaid Cymru yn galw ar weinidogion i wneud pob dim yn eu gallu i atal y dull o gasglu nwy si芒l.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Llywodraeth yr Alban atal ffracio wrth i ymchwil barhau.
Mae disgwyl i reolaeth dros ffracio gael ei datganoli i'r Alban ar 么l yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Datganoli pwerau
Does dim cynlluniau penodol i ddatganoli'r pwerau i Gymru ond mae disgwyl i ganlyniad trafodaethau rhwng Aelodau Seneddol am ddatganoli pellach gael ei gyhoeddi fis nesaf.
Bydd cynnig yn cael ei drafod yn y Cynulliad brynhawn Mercher yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud pob dim y gallen nhw i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru tan fod prawf ei fod yn ddiogel i'r amgylchedd ac i iechyd cyhoeddus.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am ddatganoli pwerau dros ffracio.