Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwiliad i gynllun Cylchffordd Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ystyried rhai o'r materion cynllunio yn ymwneud â'r cynllun i adeiladu trac rasio ym Mlaenau Gwent.
Bydd yr ymchwiliad yn cychwyn am 10:00 ar ddydd Mawrth, 10 Mawrth, yn Swyddfeydd Cyngor Sir Blaenau Gwent, gan bara wyth diwrnod.
Roedd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, sy'n gyfrifol am y cynllun i adeiladu trac rasio Cylchffordd Cymru, wedi gobeithio cychwyn y gwaith adeiladu fis Chwefror diwethaf, ond deallir bod sawl rhan o'r broses gynllunio eto i'w cwblhau, cyn y bydd modd cychwyn ar y gwaith.
Ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd y cwmni y byddan nhw'n cynnal Pencampwriaeth MotoGP am y bum mlynedd nesaf, ond y byddai'n rhaid cynnal y digwyddiad tu allan i Gymru yn 2015 oherwydd na fyddai'r trac rasio yng Nglyn Ebwy wedi'i gwblhau mewn da bryd.
Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yn Donnington Park yn 2015.
6,000 o swyddi
Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud y bydd yn creu 6,000 o swyddi a denu 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Ond ar raglen Newyddion 9 ym mis Medi 2014 cafodd nifer o bryderon eu codi gan reolwyr dau o draciau rasio Cymru ynglŷn â'r cynlluniau i ddatblygu Cylchffordd Cymru.
Dywedodd rheolwr un trac rasio bod yr awgrym y gallai datblygiad Cylchffordd Cymru greu 6,000 o swyddi yn "hynod o optimistaidd" ac efallai y byddai'n gallu bod yn fethiant llwyr.
Roedd rheolwr trac rasio arall wedi dweud ei fod yn poeni am sicrhau gwerth am arian.
Mae'r cwmni eisoes wedi derbyn grant o £2m gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynllun.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi'r cynllun ac yn dweud eu bod wedi bodloni gyda'r cynllun busnes.
Byddai'r datblygiad, a gynigiwyd gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, yn cael ei adeiladu ar 335 hectar (830 erw) o dir nesaf at Stad Ddiwydiannol Rassau.