Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gorau Cymro, Cymro oddi cartref?
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu canolfannau arbenigol i helpu'r disgyblion mwyaf galluog i fynd i'r prifysgolion gorau. Mae Benjamin Sadler bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen ar 么l graddio o Brifysgol Aberystwyth. Mewn blog i Cymru Fyw mae e'n credu y dylai myfyrwyr Cymru ehangu eu gorwelion.
Manteision ariannol
Pan es i i Aberystwyth yn 2009 i ddechrau gradd yn y Gymraeg, roeddwn i'n rhan o'r flwyddyn olaf i fanteisio'n ariannol oherwydd fy newis i astudio yng Nghymru.
Erbyn hyn, does dim angen talu'n uwch i fynd i astudio dros y ffin, fel yr oedd i'm cyfoedion i. Ar 么l i'r llywodraeth glymblaid godi ffioedd yn uwch byth, mae Llywodraeth Cymru yn sybsideiddio myfyrwyr Cymreig lle bynnag y byddan nhw'n mynd ar yr ynys hon.
Ar 么l graddio yn 2012, penderfynais i ddod draw i astudio am radd MSt (Masters Degree in Literature and Arts) a wedyn DPhil (Doctor of Philosophy) yn Rhydychen. Eleni fi yw llywydd cymdeithas Gymraeg y brifysgol, Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.
O flwyddyn i flwyddyn r'yn ni'n croesawu criw o aelodau newydd, ond er sybsid茂au'r llywodraeth, mae'r canran o fyfyrwyr o Gymru sy'n dod i astudio yma a Chaergrawnt yn dal i fod yn sylweddol is na'r canrannau o wledydd eraill ynys Prydain.
I grynhoi'r sefyllfa: mae myfyrwyr yn gadael Cymru am Loegr, ond yn methu cyrraedd rhai o'i phrifysgolion gorau.
Sefydlu 'hubs' newydd ledled Cymru i hybu ceisiadau llwyddiannus i Rydychen a Chaergrawnt yw nod y Llywodraeth, yn dilyn adroddiad gan .
Gawn ni obeithio bydd to newydd o Gymry'n adfywio Cymreictod fy ngholeg fy hun, Coleg Iesu, a sefydlwyd ym 1571 gan Huw ap Rhys o Aberhonddu.
Pam gadael Cymru?
A dyna sy'n dod at graidd y peth: pam dylai unrhyw un ddod i astudio yn Rhydychen? Pam gadael Cymru?
Cyn mynd ymhellach, mae rhaid dweud bod gennym brifysgolion da iawn yng Nghymru: daeth Prifysgol Caerdydd yn chweched yn yr asesiad REF diweddar yn eu Table of Excellence ac yn bumed yn y top 10 by impact (h.y. ymchwil).
Gaf i ddweud hefyd, yn fy marn ddiduedd bersonol i, na chaiff neb addysg well na'r hyn a ddarperir gan Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
'Cyfle i'r Cymry weld y byd, ac i'r byd weld y Cymry'
Beth felly yw'r rheswm dros adael Cymru am Rydychen a Chaergrawnt? Mae'r ddwy yn brifysgolion gwych, wrth reswm. Un rheswm arall, er ei fod yn rheswm digon salw, yw bri'r prifysgolion hyn.
Does dim eisiau edrych ymhellach nac arweinwyr y tair plaid fawr yn San Steffan i weld, ysywaeth, fod monopoli gan raddedigion Rhydychen a Chaergrawnt o hyd.
Gwaetha'r modd, bydd hyn yn effeithio ar Gymru cyhyd 芒 bod yr Undeb Prydeinig yn parhau. Ond yn bwysicach na hynny yw'r cyfle sy'n dod o astudio i ffwrdd: cyfle i'r Cymry weld y byd, ac i'r byd weld y Cymry.
Mae lledaenu profiadau yn bwysig tu hwnt i unrhyw ddiwylliant, yn y maes academaidd fel unrhyw faes arall.
Ond os cymerwn mai dyna'r bwriad, lledaenu profiad, pam aros gyda phrifysgolion Lloegr? Yn 么l asesiad QS o brifysgolion y byd, mae'r deg uchaf i gyd yn brifysgolion Saesneg eu hiaith.
Felly, beth am her newydd i Lywodraeth Cymru wedi'r 'hubs'? Beth am ysgoloriaethau newydd i MIT, Harvard, Stanford, neu Princeton?
Wedi'r cwbl, 'gorau Cymro, Cymro oddi cartref'.
Ydych chi'n cytuno gyda Benjamin? Cysylltwch gyda ni gyda'ch sylwadau ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @91热爆CymruFyw