Gwobr nofel Gymreig orau i Un Nos Ola Leuad

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Dywed rhai mai Un Nos Ola' Leuad oedd gwir hunangofiant Caradog Prichard

Mae'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard wedi ei wobrwyo fel y 'Nofel Gymreig Orau' gan feirniaid y Wales Arts Review.

Cafodd y nofel ei dewis ar ol i 1,400 o ddarllenwyr y Wales Arts Review bleidleisio ar restr fer gafodd ei dewis gan banel o arbenigwyr llenyddol.

Un Nos Ola Leuad oedd yr unig nofel Gymraeg ei hiaith ar y rhestr hwnnw.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i ferch yr awdur, Mari Prichard.

Dywedodd Uwch Olygydd y Wales Arts Review, Gary Raymond: "Mae Un Nos Ola Leuad yn llawn haeddu'r wobr.

"Yn arbennig, rydym wedi ein boddhau i'r nofel ddod i frig yr arolwg barn gan ei fod yn dangos bod nifer sylweddol o ymwelwyr i'n gwefan yn ddarllenwyr llenyddiaeth Gymraeg, yn ogystal 芒'n cynnwys llenyddol Saesneg."

Dywedodd yr awdures, Francesca Rhydderch: "Mae nifer helaeth o awduron newydd llewyrchus wedi dod i'r amlwg ers datganoli, a dylem ddathlu hynny.

"Ond mae hi'r un mor bwysig inni ystyried gwreiddiau'r gwaith newydd cyffrous sy'n ymddangos, a'r traddodiadau y mae'r gwaith yn deillio ohonynt."

Ychwanegodd: "Ymhellach, nid digwyddiad i lenorion a beirniaid yn unig yw hwn, mae'n achlysur i ddarllenwyr o bob cwr a chornel i ddod at ei gilydd i fynegi barn."