Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Meddygfeydd Pen Ll欧n dan fygythiad
Mae prinder meddygon teulu ym Mhen Ll欧n wedi cyrraedd sefyllfa lle nad oes modd llenwi swyddi gwag, ac mae meddygon wedi gwneud cais i gau un o'r ddwy feddygfa sy'n gwasanaethu'r ardal.
Dwy feddygfa, un ym Motwnnog ac un yn Abersoch, sy'n gwasanaethu tua 7,000 o bobl yr ardal.
Ym mis Medi fe wnaeth dau o'r pum meddyg teulu oedd yn gweithio rhwng y ddau safle ymddeol, ac mae ymdrechion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i lenwi'r swyddi wedi bod yn ofer.
Mae'r tri meddyg sydd ar 么l nawr wedi gwneud cais i gau meddygfa Abersoch er mwyn ysgafnhau'r baich, ac mae Cynghorau Cymuned Aberdaron a Botwnnog wedi cefnogi eu cais.
Ond clywodd y ddau gyngor mewn cyfarfod nos Lun bod dyfodol y ddwy feddygfa yn y fantol os fydd y cais yn cael ei wrthod.
Bygythiad
Dywedodd un o'r meddygon, Dr Gwyn Morris,wrth y cyfarfod bod un o'r tri meddyg sydd yn weddill yn ystyried ei ddyfodol os fydd y cais yn cael ei wrthod gan y bwrdd iechyd.
Dywedodd Gwenda Williams, cadeirydd cyngor cymuned Aberdaron, wrth raglen y Post Cynta, 91热爆 Cymru, fod y sefyllfa yn un anodd.
"Dim bod fi eisiau i Abersoch gau o gwbl, byddwn yn hoffi gweld y ddwy feddygfa yn parhau.
"Ond yn 么l y wybodaeth 'da ni wedi ei gael dydy hynny ddim yn bosib."
Dywedodd ei bod wedi cael gwybod pe na bai Abersoch yn cau, yna roedd yna fygythiad hefyd i feddygfa Botwnnog.
Ychwanegodd ei bod yn teimlo felly bod "dyletswydd cefnogi rhywle sy'n ganolog i ben Ll欧n."
Hyfforddi
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymwybodol fod rhai meddygfeydd yn cael trafferth penodi, a bod y bwrdd wedi lleisio pryder wrth Lywodraeth Cymru.
Mae'r Bwrdd wedi dechrau ymgyrch recriwtio gyffredinol ac wedi sefydlu gwefan i hyrwyddo'r ardal, ond yn ogystal 芒 hynny meddai, mae rhaid newid y modd mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu er enghraifft drwy hyfforddi uwch ymarferwyr nyrsio a defnyddio fferyllwyr.
Mae'n rhaid i'r Bwrdd, meddai, sicrhau fod bob practis wedi edrych ar ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaeth cyn caniat谩u iddyn nhw gau unrhyw feddygfa.
Mi fydd y bwrdd yn penderfynu ar gais meddygon Botwnnog ddydd Gwener, 24 Hydref.