Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Patagonia: Cynlluniau dathlu'r 150
Mewn cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod, mae Rebeca White, un o drefnwyr dathliadau canrif a hanner y Wladfa Gymreig, wedi amlinellu'r cynlluniau sydd eisoes ar y gweill ar gyfer 2015.
Wrth wneud hynny, talodd deyrnged i Tegai Roberts fu farw ym mis Ebrill, a'r hyn a wnaeth hithau i gynnal y diwylliant Cymreig yn y Wladfa. Tegai Roberts oedd gor-wyres Michael D. Jones a Lewis Jones, y ddau ddyn a sefydlodd y Wladfa.
Dywedodd Ms White, sy'n un o arweinwyr Ysgol Feithrin y Gaiman, ac yn gydlynydd pwyllgor Dathliad 150, mai'r nod wrth ddathlu fydd cynnal cyfres o ddigwyddiadau llai -'bod yn llawen, cadw'r ffydd a gwneud y pethau bychain' yn ysbryd pregeth enwog Dewi Sant.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys cynnal cyngherddau a llwyfannu dramau, cyhoeddi casgliad o hoff emynau ar gyfer Cymanfa G诺yl Dewi 2015, taith gerdded o Puerto Madryn i Rawson a rhwyfo ar afon Camwy o Geg y Ffos lawr i Rawson.
Bydd cerfluniau Seisquincentenario yn cael eu creu a'u gosod mewn nifer o bentrefi. Mae'r cerfluniau yn cynnwys dyfyniad o'r emyn Calon Lan.
Bydd yna ymgais hefyd i adfer enwau Cymraeg ar amryw leoliadau, gosod arwyddion ffyrdd dwyieithog, a chynnig gwersi Cymraeg i weithwyr mewn swyddfeydd twristiaeth.
Mae yna fwriad i ailgyhoeddi llyfrau am y Wladfa yn Sbaeneg a Chymraeg, yn enwedig rhai sydd wedi bod allan o brint.
Mae blwyddyn brysur o flaen Ms White a gweddill aelodau pwyllgor Dathliad 150!