Gwobr Goffa Daniel Owen i Lleucu Roberts, Caernarfon

Disgrifiad o'r llun, Mae Lleucu Roberts yn enedigol o ardal Bow Street, Ceredigion, ond yn byw yn Rhostryfan, Caernarfon, erbyn hyn

Mae Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2014 wedi ei rhoi i Lleucu Roberts, o Rostryfan, Caernarfon.

Y dasg eleni oedd cyflwyno nofel heb ei chyhoeddi, gyda llinyn stor茂ol cryf, a heb fod yn llai na 50,000 i eiriau.

Traddodwyd y feirniadaeth gan Gareth Davies Jones - y beirniaid eraill oedd Caryl Lewis a Bethan Mair.

Yn 么l y tri, roedd safon y gystadleuaeth yn gyffredinol yn "amrywiol", ond roedd gwaith y llenor buddugol, dan y ffugenw 'Botwm Crys', yn "nofel rymus a darllenadwy iawn".

Mae Rhwng Edafedd yn adrodd hanes Eifion. Ar gychwyn y nofel mae Eifion yn bygwth neidio oddi ar Bont Borth, er mwyn dianc o'i fywyd.

Teimla fod popeth yn fethiant, ei fusnes, ei berthynas 芒'i deulu a'i briodas. Mae'r nofel yn adrodd ei hanes wrth iddo geisio delio gyda'r problemau ac ailafael yn ei fywyd.

Ailddrafftio

Meddai Gareth Davies Jones ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Mawrth:

"Ar y cyfan, mae'r prif gymeriadau'n argyhoeddi - maen nhw'n gyson a chredadwy ac yn amlygu adnabyddiaeth gadarn yr awdur o'r natur ddynol a'i broblemau. Mae diweddglo'r nofel yn drist ac yn effeithiol o annisgwyl, ond, er hynny, yn cael ei drin yn sensitif a chyda chydymdeimlad.

"Mae hon yn nofel gyflawn a chymesur, a theimlwn ar 么l ei darllen ein bod wedi bod ar daith gydag Eifion i dywyllwch enaid ac wedi dod n么l gydag ef i'r lan.

"Dyma'r nofel orau yn y gystadleuaeth. Ail gyflwyniad ydi hi o nofel a gyflwynwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn 2011. Mae'n debygol fod yna fireinio wedi bod arni ers hynny, ac ar 么l hir drafod ac ystyried, rydym yn gyt没n fel beirniaid ei bod yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir G芒r 2014."

Disgrifiad o'r fideo, Gwobr Goffa Daniel Owen (161) / Daniel Owen Memorial Prize (161)

Cefndir

Magwyd Lleucu Roberts yn ardal Bow Street, Ceredigion, ond mae hi wedi bod yn byw yn Rhostryfan, ger Caernarfon, ers dros 20 mlynedd.

Mae'n briod 芒 Pod, ac mae ganddyn nhw bedwar o blant, Gruffudd, Ffraid, Saran a Gwern. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Rhydypennau, Ysgol Penweddig, a Phrifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg, ac ennill gradd doethur yn 1989.

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhwllheli ym 1982 tra roedd yn yr ysgol.

Bu'n gweithio fel golygydd yng Ngwasg y Lolfa cyn troi ei llaw at ysgrifennu a sgriptio cyfresi teledu a radio.

Bellach, mae'n awdur ac yn gyfieithydd amser llawn. Cyhoeddodd chwe nofel i oedolion a phum nofel i blant ac oedolion ifanc.

Enillodd wobr Tir na-n-Og ddwywaith.

'Rhyddhad'

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw wedi'r seremoni, dywedodd Lleucu: "Ma'r nofel 'di bod ar y gweill ers blynyddoedd, a dw i 'di cystadlu gyda hi o'r blaen - wel, fersiwn ohoni, beth bynnag - dw i wedi ailwampio'r ail hanner yn llwyr ers hynny.

"Ond oes, ma' 'na rai blynyddoedd wedi bod, ac fe wnes i droi'n 么l ati ryw 18 mis yn 么l."

Wrth s么n am gymeriad Eifion fel canolbwynt y nofel, dywedodd: "Oedd gen i ddiddordeb mewn 'sgwennu am gymeriad o safbwynt ychydig yn fwy seicolegol - hynny yw, edrych yn drylwyr ar y cymeriad, y cymhelliad dros be' mae'n ei wneud ac ar y pethe' sy 'di ei ffurfio fe a'i wneud e'n pwy yw e.

Ychwanegodd ei bod yn rhyddhad gweld y nofel yn gweld golau dydd ar 么l blynyddoedd o waith:

"Dw i wedi 'sgwennu pethe' eraill yn y cyfamser, wrth gwrs, a'i gadael hi yn y dr么r am sawl blwyddyn, ond dw i'n teimlo bod 'na syniad oedd gwerth bwrw 'mlaen nag o. Dw i yn falch mod i wedi deall Eifion yn llwyr o'r diwedd.

"Dw i'n berson nerfus ar y gore ac wedi dechrau crynu tua phythefnos yn 么l, dw i'n siwr! Ond unwaith ddechreuodd y seremoni, o' ni'n wrth fy modd."

Yn ogystal 芒 Medal Gwobr Goffa Daniel Owen, mae'r enillydd hefyd yn derbyn gwobr ariannol o 拢5,000 (拢2,000 gan Gronfa Ll锚n Dinefwr; 拢1,000 yn rhoddedig er cof am Tom Gravell, Cydweli, gan ei fab, David, Indeg a'r teulu; 拢1,000 gan Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydaman; 拢1,000 gan Eglwys Gymraeg yr Annibynwyr, Loveday Street, Birmingham).