Carchar Abertawe yw'r mwya' gorlawn'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Nick Hardwick bod y sefyllfa yn 'ddifrifol iawn'

Mae'r prif arolygydd carchardai wedi beirniadu cyflwr carchardai Cymru a Lloegr wedi i ddwsinau o garchardai llawn gael gorchymyn i dderbyn mwy o garcharorion.

Dywedodd Nick Hardwick mai "methiannau gwleidyddol a pholisi" oedd yn gyfrifol am orlenwi peryglus nifer o garchardai cyhoeddus.

Mae bob carchar ond chwech sydd wedi cael gorchymyn i dderbyn mwy yn llawn neu'n orlawn. Mae llefydd ychwanegol mewn carchardai preifat wedi cael eu prynu ers mis Mai.

Ar y rhestr o garchardai sydd fwyaf llawn, Abertawe sydd ar y brig gyda Chaerdydd yn nawfed. Mae carchar Altcourse yn Lerpwl, sy'n dal nifer o garcharorion o ogledd Cymru, hefyd yn yr ugain uchaf.

Dywedodd Mr Hardwick wrth y 91热爆: "Mae'r sefyllfa yn ddifrifol dros ben ac rwy'n bryderus iawn.

"Mae hwn yn fethiant gwleidyddol a pholisi - nid bai'r staff yw hyn."

Roedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling yn anghytuno gyda Mr Hardwick, gan fynnu bod 1,000 o lefydd gwag mewn carchardai ac mae wedi addo 2,000 yn fwy erbyn Ebrill nesaf.

Ychwanegodd bod y mesurau newydd er mwyn paratoi am gynnydd posib yn nifer y carcharorion dros yr haf.

"Rwy'n camau rhag ofn er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymestyn i gwrdd 芒'r galw," meddai.

Dywedodd llefarydd Llafur ar gyfiawnder Sadiq Khan: "Pan mae prif arolygydd y carchardai'n rhybuddio am rhywbeth fel hyn fe ddylai bawb dalu sylw.

"Mae'r syniad bod carchardai'n gallu adfer troseddwyr fel na fyddan nhw'n troseddu eto mewn amgylchiadau fel hyn yn j么c."