Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teyrngedau i Tegai Roberts o Batagonia
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Tegai Roberts, fu farw yn 87 oed ddydd Mercher.
Tegai Roberts oedd gor-wyres Michael D. Jones a Lewis Jones, y ddau ddyn a sefydlodd y Wladfa ym Mhatagonia bron 150 o flynyddoedd yn 么l.
Bu farw mewn ysbyty yn Nhrelew, Patagonia, Yr Ariannin, bnawn Mercher.
Bydd ei hangladd yn cael ei gynnal ddydd Iau yn y Gaiman.
Roedd Tegai yn or-wyres, ar ochr ei thad, i Michael D. Jones, sylfaenydd y Wladfa.
Roedd hi hefyd yn or-wyres, ar ochr ei mam, i Lewis Jones, arweinydd cyntaf y Wladfa a'r g诺r a enwyd Trelew ar ei 么l.
Mae Cymdeithas Cymru Ariannin wedi disgrifio ei marwolaeth fel un "trist iawn" i'r disgynyddion o Gymru ac i'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia.
Roedd Tegai Roberts yn gyfrifol am raglen wythnosol ar orsaf Radio Chubut am nifer o flynyddoedd.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Radio Chubut bod "Cymru i'w gweld yn ei llygaid", a bod "llais un oedd yn filwriaethus dros ddiwylliant Cymraeg wedi pylu".
Ym mis Gorffennaf 2015, fe fydd hi'n 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf lanio ym Mhorth Madryn oddi ar fwrdd llong y Mimosa.