Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cau rhan o draeth Bae Colwyn
Mae milltir o draeth Bae Colwyn wedi ei gau i'r cyhoedd am fisoedd tra bod gwaith ar gynllun adnewyddu a diogelu amddiffynfeydd m么r y dref yn cael ei gwblhau.
Dywedodd Cyngor Conwy ddydd Llun fod rhan o'r traeth - rhwng Llandrillo yn Rhos a Phorth Eirias - wedi ei gau er mwyn diogelu'r cyhoedd gan fod peiriannau trwm yn cael eu defnyddio yn ystod 'Prosiect Glan y M么r'.
Mae'r gwaith, sydd werth 拢6.7 miliwn, yn cynnwys gwaith atgyweirio hanfodol i'r morglawdd presennol ac adnewyddu rhan o'r promen芒d rhwng Porth Eirias a'r Pier, gyda'r promen芒d yn cael ei godi a'i arwynebu.
Bydd llain o draeth i'r gorllewin o Borth Eirias yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod a gobaith y cyngor ydi ail-agor rhannau o'r traeth wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Priffyrdd, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd: "Mae pawb wedi gweld yr effaith a gafodd y stormydd ar ddechrau'r flwyddyn a sut mae'r gwaith a gwblhawyd eisoes wedi llwyddo i amddiffyn promen芒d Bae Colwyn, ac roedd y traeth newydd yn boblogaidd iawn y llynedd.
''Gyda'r amddiffynfeydd m么r ychwanegol yn eu lle, byddwn hefyd yn gwella'r promen芒d a'r llwybr i'r dref i atgyfnerthu profiad trigolion ac ymwelwyr. Bydd y cyfraniad artistig i'r cynllun yn gyffrous iawn - cafwyd adborth calonogol iawn pan gyflwynwyd y syniadau i'r cyhoedd mewn digwyddiad ym Mhorth Eirias mis Tachwedd y llynedd".
Mae disgwyl i'r holl draeth ail-agor erbyn gwyliau'r haf.