Newidiadau i amserlen Radio Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Tommo, Sh芒n Cothi a Dylan Jones yn ganolog i'r amserlen newydd

Mae newidiadau i raglenni Radio Cymru wedi dod i rym ddydd Llun.

Roedd rhaglen newyddion y Post Cynta yn dechrau am 6am ac yn gorffen am 8am, gyda rhaglen newydd Dylan Jones yn dilyn rhwng 8am a 10am.

Tommo neu Andrew Thomas - fydd un o brif leisiau'r orsaf, yn darlledu rhwng 2pm a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau.

Yn 么l rheolwyr yr orsaf, daeth y newidiadau ar 么l cyfnod o ymgynghori gyda'r cyhoedd.

Dywedodd Tommo, troellwr oedd yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Sir G芒r a Radio Ceredigion, ei fod yn edrych ymlaen yn fawr.

"Beth bynnag mae pobol eisiau siarad amboutu, dwi'n fodlon gwrando. Fi'n hoffi creu llun ar gyfer pobol fel 'u bod nhw'n gallu gweld beth fi'n 'i weld.

"Bydd yna ddigon o gerddoriaeth, tua 11 o ganeuon yr awr a chystadlaethau.

"Fe fydd yn 'bang, bang, bang,' cerddoriaeth, 'chydig o sgwrs ond dim cyfweliadau. Bydd y gerddoriaeth yn amrywio o'r saithdegau a'r wythdegau i'r nawdegau."

Cyflwyno

Roedd rhaglen y gantores Sh芒n Cothi, Bore Cothi, am 10am a Guto Rhun fydd cyflwynydd newydd C2.

Yn y cyfamser, mae cyflwynydd Taro'r Post Garry Owen yn teithio o amgylch Cymru yr wythnos hon, gan ddechrau yng Nghaernarfon a gorffen yng Nghwm Tawe ddydd Gwener.

Ar wefan Radio Cymru roedd Betsan Powys, y golygydd rhaglenni wedi dweud: "... y feirniadaeth oedd ein bod ni'n dal i drio bod yn bopeth i bawb trwy'r amser ac felly'n cynnig gormod o'r un peth i'r un gynulleidfa, yr un math o sgyrsiau, yr un math o gerddoriaeth, yn anelu gormod i gyfeiriad un math o wrandawr.

"O ddydd Llun ymlaen fydd hynny ddim yn wir.

'Rhywbeth i bawb'

" Y nod fydd peidio bod yn bopeth i bawb ond cynnig rhywbeth i bawb ryw ben bob dydd.

"Fe fydd rhai'n ffafrio rhaglen lawn dop Dylan Jones ar 么l y Post Cyntaf yn y bore, eraill yn edrych ymlaen i ymuno'n y sgwrs a ch芒n ar Bore Cothi gyda Sh芒n Cothi, eraill yn mwynhau dadl ddifyr, bigog weithiau ac ymateb bywiog ar ein rhaglenni newydd sbon ni amser cinio ac ar Taro'r Post fydd yn fyw am un.

"Ddaw eraill ddim at Radio Cymru tan fod Tommo o ddydd Llun i ddydd Iau a Tudur Owen ar ddydd Gwener yn rhoi t芒n 'dani yn y pnawn falle.

"Ond mi fydd pawb sydd ar yr orsaf yn hoff o lais rhywun, gobeithio, a'r gwir yw bod lle iddyn nhw i gyd ar orsaf sy'n falch o gael bod yn llais Cymru."