Canser: methu targedau amser aros

Disgrifiad o'r llun, Roedd Mr Drakeford wedi dweud bod cynlluniau mewn lle fel bod y targed yn cael ei gyrraedd erbyn Hydref 2013

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu targedau amseroedd aros ar gyfer cleifion canser sy'n cael eu hystyried yn achosion brys.

Mae'r ffigyrau diweddaraf, y rhai ar gyfer Tachwedd 2013, yn dangos bod 92% o'r cleifion dan sylw gafodd ddiagnosis canser oedd yn cael eu hystyried i fod yn achosion brys wedi dechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau.

Targed y llywodraeth yw 95% a dyw hwn heb gael ei gyrraedd ers 2008.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod y methiant yn "warth cenedlaethol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth iechyd yn symud i'r cyfeiriad cywir.

'Cywilydd'

Yn Hydref fe gafodd 92.4% o bobl eu gweld o fewn 62 ddiwrnod.

Cafodd targed canser arall y llywodraeth - bod 98% bobl sydd 芒 chanser sydd ddim yn achos brys yn dechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod - ei gyrraedd.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar: "Mae methiant Llafur i gyrraedd y targed yma bellach yn fater o gywilydd cenedlaethol.

"Mae addewidion wedi cael eu torri ac mae ymrwymiadau i wella'r perfformiad wedi methu.

"Mae'r bwlch rhwng diagnosis a dechrau triniaeth yn gyfnod eithriadol o anodd a bydd yr oedi anfaddeuol yma'n cael effaith anferth ar gleifion a'u teuluoedd.

"Mae teuluoedd ledled Cymru'n haeddu ymddiheuriad a sicrwydd cadarn gan Lafur y bydd y targed yn cael ei gyrraedd."

'Targed arall'

Dywedodd Elin Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Mae hwn yn darged arall sydd wedi cael ei fethu gan Lywodraeth Cymru.

"Fe wnaeth y llywodraeth addo y byddai'r targed ar gyfer trin cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser trwy'r llwybr brys yn cael ei gyrraedd erbyn Hydref y flwyddyn ddiwethaf.

"Ond mae'r ffigyrau yma'n dangos fod hyn heb ddigwydd."

Dywedodd ei bod yn poeni am y ffaith bod gwahaniaeth yn yr amseroedd aros rhwng y byrddau iechyd.

Fe wnaeth byrddau Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro gyrraedd y targed ar gyfer mis Tachwedd a Rhagfyr ond does dim un o'r byrddau iechyd eraill wedi gwneud ers Ebrill 2012.

Dyw hyn ddim yn ddigon da, yn 么l Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams.

"Fe wnaeth gweinidog iechyd Llafur addo y byddai'r targedau'n cael eu cyrraedd ond, yn anffodus, dyw hyn heb ddigwydd," meddai.

"Does fawr ddim gwelliant wedi bod o'i gymharu 芒'r mis blaenorol."

'Cyfeiriad cywir'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru unwaith eto yn cyrraedd neu bron iawn 芒 chyrraedd y targedau triniaeth canser.

"Ar gyfer y ffigwr ar gyfer achosion brys roedd mwy o gleifion yn dechrau triniaeth ym mis Tachwedd 2013 o'i gymharu 芒 Hydref 2013 (cynnydd o 4.2%) ac fe wnaeth mwy ddechrau triniaeth bpendant o fewn yr amser targed.

"Ym mis Hydref roedd y cynnydd gorau yn rhif graddfa cleifion canser o fewn y targed o 62 ddiwrnod yn yr 18 mis diwethaf, ac mae ffigyrau mis Tachwedd yn dilyn y llwyddiant yma'n agos, gyda mwy o gleifion yn cael triniaeth o fewn y mis ac amser triniaeth.

"Mae hyn yn dangos bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn symud i'r cyfeiriad cywir wrth i fyrddau iechyd symud tuag at gyrraedd eu targedau."