Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
MBE Efa am achosi rhwyg?
- Awdur, Anna Glyn
- Swydd, Newyddion arlein
Mae un o gyn-brif weithredwyr yr Urdd yn pryderu bod penderfyniad Efa Gruffudd Jones, y brif weithredwraig bresennol, i dderbyn yr MBE yn ddiweddar yn mynd i achosi rhwyg o fewn y mudiad fel y digwyddodd adeg arwisgo Tywysog Cymru yn 1969.
Yn 么l Cyril Hughes, mae'n bwysig bod gwirfoddolwyr yn dal i deimlo'n rhan o'r sefydliad.
Mi oedd Cyril Hughes yn ddirprwy gyfarwyddwr yn '69 ac mi gafodd yr Urdd wahoddiad i seremoni arwisgo Tywysog Cymru adeg hynny.
Ar 么l trafod, mi benderfynodd y Cyngor Cenedlaethol dderbyn y cynnig.
"Pan wnaed hyn yn hysbys, fe gafwyd cryn dipyn o gynnwrf a gwrthryfela, a dweud y gwir, yn y maes ymhlith arweinyddion ac ymhlith aelodau'r urdd, aelodau h欧n, hefyd aelwydydd a rhai aelodau staff. Yn wir fe gynigiodd ryw 4 aelod o staff eu hymddiswyddiad."
Ar 么l ail gyfarfod a phleidlais unwaith eto, mi benderfynodd yr Urdd y tro yma i wrthod y gwahoddiad. Y cyfaddawd oedd y byddai'r Tywysog Charles yn dod i Eisteddfod Aberystwyth am ei fod o yn ymweld 芒'r coleg ar y pryd.
Pryder Cyril Hughes, oedd wrth y llyw rhwng 1973 ac 1982 ydy y bydd penderfyniad Efa Gruffudd Jones i dderbyn yr MBE yn achosi cecru o fewn y mudiad.
'Dim troi'r cloc yn 么l'
"Beth fyswn i yn gobeithio ydy nad ydy unrhyw weithred gan unigolyn neu yn wir gan bwyllgorau'r Urdd yn ganolog, na fyddai dim byd yn troi'r cloc yn 么l i '69 lle mae'r Urdd unwaith eto yn ymdrybaeddu mewn unrhyw ddadleuon felly.
"Dw i'n credu bod hyn yn hynod o bwysig a dyna'r gofid sydd gen i am rai datblygiadau yn ddiweddar."
Mae o yn dweud y gallai unrhyw rwyg fod yn niweidiol a bod y mudiad yn ddibynnol ar ewyllys da pobl.
"Hanfod mudiad gwirfoddol a hanfod unrhyw un sydd yn arwain mudiad gwirfoddol yw gallu cydweithio yn hapus gyda gweithwyr gwirfoddol ar hyd a lled Cymru ac mae'n bwysig iawn bod dim byd yn digwydd i amharu ar y berthynas honno."
Chafodd Cyril Hughes ddim cynnig yr MBE ond mae'n dweud mai gwrthod y byddai o wedi gwneud. Dydy o ddim yn credu yn yr anrhydeddau. Ond mae'n dweud tra ei bod nhw'n bodoli y dylai Cymru gael system ei hun.
"Os oes rhaid cael anrhydeddau o gwbl, pobl yng Nghymru ddyle fod yn penderfynu ar hynny ac anrhydeddau Cymreig ddylen nhw fod ac anrhydeddau sydd yn mynd i bobl sydd yn gweithio yn galed ar lawr gwlad, pobl sydd yn wirfoddolwyr.
"Dw i ddim yn deall pam bod pobl sydd mewn swyddi da, cyflogau da yn cael anrhydeddau ar ben hynny hefyd."
Doedd yr Urdd nag Efa Gruffudd Jones am wneud unrhyw sylw.