Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Amseroedd aros ar eu huchaf ers dwy flynedd
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod y nifer o bobl sy'n aros naw mis neu fwy am driniaeth yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf ers o leiaf ddwy flynedd.
Fe gododd y nifer i 13,269 ddiwedd mis Tachwedd 2013, cynnydd o tua 1,000 ar y mis blaenorol ac 8,000 ers diwedd Mawrth 2013.
Nod Llywodraeth Cymru yw bod pob claf yn cael triniaeth o fewn naw mis.
Yn ogystal mae'r ffigyrau'n dangos bod 88% o gleifion wedi cael triniaeth o fewn 26 wythnos. 95% yw nod y llywodraeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyd yr amseroedd aros dros 36 wythnos yn byrhau, mae mwyafrif llethol y cleifion yn parhau i aros llai na 26 wythnos ac mae'r amser aros canolrifol tua 10 wythnos.
"Er bod nodi cynnydd yn y nifer o gleifion sy'n aros dros 36 wythnos yn siomedig, mae'r GIG yng Nghymru'n gweithio'n galed i sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaeth o fewn amser synhwyrol ac yn blaenoriaethu'n glinigol rhwng triniaeth frys a thriniaeth a drefnir o flaen llaw."
'Yn warthus'
Dydi ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ddim yn ffafriol.
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y blaid yng Nghymru: "Ddylai neb gael ei orfodi i aros dros 36 wythnos am driniaeth. Er hyn, yma yng Nghymru dan arweiniad llywodraeth Lafur ddiffygiol, mae dros 13,000 wedi gorfod aros mwy na hynny. Mae'n warthus.
"Mae aros i ddechrau triniaeth yn amser all achosi straen i glaf. Dylai lleihau'r amseroedd aros fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
"Boed yn ofal canser annigonol, amseroedd ymateb ambiwlans anfoddhaol neu amseroedd aros hir - mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu 芒 chynnig y gwasanaeth iechyd mae pobl Cymru yn ei haeddu a'i angen.
"Mae'r diffyg uchelgais yn siomi cleifion ledled Cymru.
"Er bod staff y GIG yn gweithio'n hynod o galed i helpu cleifion, mae eu hymdrechion yn cael eu rhwystro gan Lywodraeth Lafur ddiffygiol yng Nghymru."