Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hwb arall i atomfa newydd yn Wylfa
Mae Llywodraeth San Steffan wedi arwyddo cytundeb gyda Hitachi a Horizon er mwyn rhoi gwarant ariannol gyda'r bwriad o ddatblygu atomfa newydd yn Wylfa ar Ynys M么n.
Mae'r datblygiad, yn 么l y llywodraeth, yn arwydd o'u hymrwymiad clir i ynni niwclear newydd.
Yn ogystal 芒'r ddarpariaeth niwclear, mae 'na gynlluniau i fuddsoddi arian cyhoeddus ac arian preifat mewn trafnidiaeth, cynlluniau atal llifogydd, cynlluniau ynni a delio gyda gwastraff hyd y flwyddyn 2030.
Yn 么l llefarydd ar ran y Trysorlys, mae'n dal yn ddyddiau cynnar o ran prosiect atomfa yn Wylfa ond mae'r datganiad ddydd Mercher yn cael ei "weld fel cam yn y cyfeiriad cywir."
Ychwanegodd: "Dyw gwarant ddim yn daliad uniongyrchol i'r prosiect ond mae o'n ffordd o sicrhau bod prosiectau mawr yn elwa o fantolen y llywodraeth, mae'r llywodraeth yn fodlon digolledu'r cwmn茂au. Mae hyn yn arwydd o hyder yn y prosiect."
Ymateb
Wedi'r cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS:
"Mae cyhoeddi'r Cynllun Isadeiledd Cenedlaethol yn dangos fod y Llywodraeth yma yn darparu i Gymru - yn gwella rhwydwaith isadeiledd y wlad ac yn rhoi sicrwydd i gwmn茂au sy'n bwriadu buddsoddi yng Nghymru.
"Yn dilyn ein cyhoeddiad am Hinkley Point ym mis Hydref, mae'r cyhoeddiad heddiw'n dangos ein hymrwymiad parhaol a chadarn i ynni niwclear newydd yn y DU, ac i gefnogi buddsoddiad Hitachi yn y Wylfa newydd.
"Bydd eu buddsoddiad yn dod 芒 budd sylweddol i economi Cymru, yn enwedig yn Sir F么n, trwy gyfleoedd i ddarparu'r gadwyn gyflenwi a swyddi o ansawdd uchel sydd eu gwir angen."
Cafodd y cyhoeddiad groeso gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a dywedodd yr AC dros ogledd Cymru, Aled Roberts:
"Mae'n newyddion gwych i ogledd Cymru ac mae'n dod yn dilyn yr ymrwymiad i adeiladu carchar mawr a datblygu'r cysylltiad band eang cyflym i helpu busnesau yng ngogledd Cymru.
"Mae'r llywodraeth glymblaid wedi ymrwymo i ddod 芒 buddsoddiad i'r DU ac rwyf wrth fy modd fod Wylfa B yn amlwg yn rhan fawr o'u cynlluniau.
"Mae miloedd o swyddi ar yr ynys yn ddibynnol ar ddyfodol y safle ac rwy'n croesawu fod y llywodraeth glymblaid yn cydnabod pwysigrwydd hyn."
Cytundebau eraill
Ddydd Mercher hefyd cyhoeddodd P诺er Niwclear Horizon eu bod nhw wedi arwyddo cytundebau strategol gyda'r cyflenwyr fydd yn darparu gwasanaethau dylunio technegol a pheirianneg arbenigol ar gyfer prosiect Wylfa Newydd.
Bydd y prif gyflenwyr llwyddiannus - AMEC, Atkins a Cavendish Nuclear - yn awr yn cydweithio 芒'u cadwyni cyflenwi perthnasol a Horizon dros y tair blynedd nesaf.
Dywed Horizon y byddan nhw hefyd yn gweithio gyda'r cwmn茂au i greu cyfleoedd i eraill yn y gadwyn gyflenwi ac y bydd y contractwyr yn cydweithio 芒 busnesau lleol lle bo hynny'n briodol.
Dau adweithydd
Yn y misoedd nesa' mae disgwyl trafodaethau yngl欧n 芒'r pris fydd yn cael ei dalu am ynni sy'n cael ei gynhyrchu yn y Wylfa.
Mae hynny'n golygu fod prosiect Wylfa ar ei h么l hi o gymharu 芒 Hinkley.
Yno yn ddiweddar fe wnaeth y llywodraeth gytuno ar bris yr oeddynt yn fodlon talu am ynni yn y dyfodol.
Fis diwethaf dywedodd cwmni P诺er Niwclear Horizon mai dau yn lle tri adweithydd d诺r berwedig maent yn bwriadu eu hadeiladu yn Y Wylfa.
Ffurfiwyd P诺er Niwclear Horizon yn 2009 i ddatblygu gorsafoedd p诺er niwclear newydd yn y DU.
Ym mis Tachwedd 2012, prynodd Hitachi Ltd o Japan y cwmni oddi wrth y cyn cydberchnogion RWE npower ac E.ON UK.