Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim fferm wynt ger arfordir y de
Mae'r 91热爆 ar ddeall na fydd fferm wynt anferth arfaethedig ger arfordir de Cymru yn digwydd wedi'r cwbl.
Deellir bod y datblygwr, RWE Innogy, wedi tynnu n么l o gynllun i godi 240 o dyrbinau fel rhan o brosiect Atlantic Array.
Fe fyddai'r fferm wynt wedi cael ei lleoli o fewn 14 milltir i arfordir de Cymru ac o fewn 8 milltir i warchodfa natur Ynys Wair (Lundy).
Roedd y cynllun wedi cael ei feirniadu gan amgylcheddwyr oedd yn bryderus ar yr effaith ar fywyd gwyllt a bywyd morol ym M么r Hafren.
Doedd neb o RWE Innogy ar gael i wneud sylw ar y mater.
Fe fyddai'r tyrbinau wedi bod yn 220 meter (721 troedfedd) o uchder ac yn gallu cynhyrchu 1,200 MW o drydan - digon i oddeutu 900,000 o gartrefi yn 么l y datblygwr.
Dywedodd Golygydd Gwleidyddol De-Orllewin Lloegr i'r 91热爆, Martyn Oates: "Mae ffynonellau wedi dweud wrthym na fydd hyn nawr yn digwydd oherwydd problemau i ariannu'r cynllun.
"Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Regen SW (corff ynni gwyrdd) bod cyhoeddiad llywodraeth y DU yn ddiweddar ei bod am dorri n么l ar gymorthdaliadau i gefnogi ynni gwyrdd eisoes wedi peryglu buddsoddiad yn y rhanbarth ac yn peryglu swyddi.
"Yn nhermau buddsoddiad a swyddi mae hwn yn gynllun mawr iawn."
Dywedodd Derek Green, rheolwr Ynys Ynys Wair: "Os yw hyn yn wir yna rydym wrth ein boddau.
"Mae'n newyddion gwych i dwristiaeth a bywyd gwyllt ym M么r Hafren, ac yn enwedig i Ynys Wair.
"Roedd hi'n bryder y byddai datblygiad mor agos at yr ynys yn gallu ei llyncu. Mae nifer o dyrbinau nad ydym wedi eu gwrthwynebu, ond rydym wedi dweud o'r dechrau y dylai ffermydd gwynt yn y m么r fod allan yn y m么r, ond roedd hwn yng nghanol M么r Hafren.
"Mae pawb angen trydan, ond mae lleoedd mwy priodol i'w greu."